polisi preifatrwydd

 

  1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud.

Maethu Cymru Sir Fynwy yw’r gwasanaeth maethu sy’n rheoli pob ymholiad sy’n ymwneud â maethu ar gyfer Cyngor Sir Fynwy. 

Mae ein tîm yn rheoli pob ymholiad maethu i’r pwynt bod darpar ymgeiswyr yn cael eu cymeradwyo a thu hwnt. 

Darperir yr hysbysiad hwn er mwyn egluro pa wybodaeth sydd ei hangen ar y cyngor er mwyn prosesu ymholiadau i’w maethu. Mae’n angenrheidiol i’r cyngor gasglu, cynnull, storio a phrosesu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â hawlwyr. Mae’r cyngor yn rhoi mesurau ar waith i amddiffyn preifatrwydd unigolion trwy gydol y broses hon  

 

Pwy sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth?  

Mae holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw a’i phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. I gael gwybodaeth am rôl y Rheolwr Data, y Swyddog Diogelu Data a Manylion Cyswllt y Cyngor, cyfeiriwch at dudalen ‘Diogelu Data’ gwefan y Cyngor:  

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/eich-preifatrwydd/ 

 

  1. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei chadw ac am bwy?

Os ydych chi’n gwneud ymholiad i ddod yn ofalwr maeth, dim ond mewn perthynas â‘ch ymholiad i faethu y mae’r wybodaeth a gafwyd a dim ond i’ch cysylltu i drafod eich ymholiad y bydd yn cael ei defnyddio. Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich data, mae gennych hawl i dynnu’ch caniatâd i’r prosesu hwn yn ôl ar unrhyw adeg. 

Bydd angen cydsyniadau ar wahân ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol arall sydd ei hangen i barhau â‘r broses faethu.  

Os ydych chi’n mynd trwy’r broses asesu i ddod yn ofalwr maeth byddwn yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi, eich partner ac unrhyw un yn eich cartref a fydd yn rhan o’r broses. 

Gall hyn gynnwys; 

Gwybodaeth bersonol – enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt (rhif ffôn/cyfeiriad e-bost), cyflogaeth, gwybodaeth am eich teulu/perthnasoedd a phartneriaid blaenorol. 

Gwybodaeth categori arbennig – weithiau byddwn yn prosesu gwybodaeth categori arbennig sydd â mwy o ddiogelwch o dan y Ddeddf Diogelu Data. Mae hyn oherwydd yr ystyrir bod data categori arbennig yn fwy sensitif fel unrhyw faterion iechyd a allai fod gennych, ethnigrwydd, euogfarnau troseddol blaenorol ac unrhyw ymwneud blaenorol â’r gwasanaethau cymdeithasol. 

 

  1. O ble mae’r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Oddi wrthych chi, ar adeg gwneud eich ymholiad/cais ac os bydd hyn yn mynd yn ei flaen, yn ystod y cam ymweld/asesu cartref.  

 

Darparu gwybodaeth gywir  

Mae’n bwysig ein bod yn cadw gwybodaeth gywir a chyfoes amdanoch chi er mwyn asesu eich anghenion a darparu’r gwasanaethau priodol. Os yw unrhyw un o’ch manylion wedi newid, neu’n newid yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru’ch cofnodion.  

 

  1. Bethfyddwnni’n ei wneud â’ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ymateb i’ch ymholiad. 

Os penderfynir parhau â’ch ymholiad i faethu, byddwn yn casglu mwy o wybodaeth gennych gyda’ch caniatâd i’n helpu i benderfynu a ydych chi’n addas i ddod yn ofalwr maeth.  

Efallai y byddwn yn monitro ac yn cofnodi galwadau a wneir i ni, neu alwadau a wnawn i chi. 

  1. Bethyw’rsylfaen gyfreithiol ar gyfer defnyddio’r wybodaeth hon? 

Dywed y gyfraith Diogelu Data ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fydd gennym reswm cywir a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu ymholiadau a cheisiadau maethu yw cydymffurfio gyda; 

Rheoliad Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2018/1339/contents/made a chod ymarfer https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/cod-ymarfer-ar-gyfer-gwasanaethau-maethu-awdurdodau-lleol.pdf 

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/contents 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1989/41/contents 

Deddf Plant 1989 

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1989/41/contents 

Deddf Plant 2004 

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2004/31/contents 

 

  1. A yw’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Prif ddefnyddwyr eich gwybodaeth bersonol yw Cyngor Sir Fynwy. Ni rennir eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall ar yr adeg ymholi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â‘ch caniatâd os bydd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen, i’r tîm maethu bennu eich addasrwydd i ddod yn ofalwr maeth. 

Ar y pwynt hwn bydd ein tîm asesu maethu yn gofyn ichi roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu’n fewnol. Pe byddech chi’n symud ymlaen i asesiad llawn gofynnir i chi roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu ag unigolion/sefydliadau eraill sy’n rhan hanfodol o’ch asesiad llawn. Rhoddir mwy o fanylion am yr unigolion/sefydliadau eraill hyn pe baech yn symud ymlaen i asesiad llawn. 

Efallai y bydd rheolwyr data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Cysylltwch â’r maes gwasanaeth i gael mwy o wybodaeth. 

 

  1. Pa morhiry bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw? 

Dim ond cyhyd ag y bydd angen i ni gadw’ch data personol er mwyn cyflawni’r pwrpas(au) y cafodd ei gasglu ar eu cyfer ac am gyhyd wedi hynny ag yr ydym yn ystyried y gallai fod yn ofynnol i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallem eu derbyn, oni bai ein bod yn dewis cadw’ch data am gyfnod hirach i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol. Gellir cadw data dienw at ddibenion ystadegol. Gallwch dynnu eich caniatâd i hyn yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni. 

  1. Eich gwybodaeth, eich hawliau.

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth bersonol sydd gan y gwasanaethau amdanoch chi. 

Gwybodaeth bellach am eich hawliau a sut i’w harfer: 

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i chi. Sylwch nad yw’r holl hawliau hyn yn rhai absoliwt a bydd angen i ni ystyried eich cais ar ôl ei dderbyn. Mae gennych hawl i ofyn: 

  1. i gywiro’ch data os yw’n anghywir neu’n anghyflawn; 
  1. i gael eich data wedi’i ddileu; 
  1. i gyfyngu ar brosesu eich data; 
  1. i arfer eich hawl i ddata cludadwy; 
  1. i wrthwynebu’r prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol, proffilio a gwneud penderfyniadau awtomataidd. 

Gall unrhyw unigolyn sydd â phryderon ynghylch y ffordd y mae Cyngor Sir Fynwy yn trin eu data personol gysylltu â‘r Swyddog Diogelu Data yn y Cyngor fel a ganlyn: 

Rheolwr Diogelu Data a Gwybodaeth, Swyddfa Rhaglen Ddigidol, Neuadd y Sir, Y Radur, Brynbuga, NP15 1GA. 

E-bost: dataprotection@monmouthshire.gov.uk  

Ffôn: 01633 644644 

Gallwch hefyd godi pryderon gyda Chomisiynydd Gwybodaeth Cymru. Gellir cysylltu â‘r Comisiynydd Gwybodaeth yn: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru 

2il Lawr [Text Wrapping Break]Tŷ Churchill   [Text Wrapping Break]Ffordd Churchill[Text Wrapping Break]Caerdydd[Text Wrapping Break]CF10 2HH 

Ffôn: 02920 678400 Ffacs: 02920 678399 

E-bost: wales@ico.org.uk Gwefan: https://cy.ico.org.uk 

  1. Cysylltwchâni 

Rydym yn croesawu eich sylwadau ynghylch y Datganiad Preifatrwydd hwn. Os ydych chi’n credu nad yw Maethu Cymru Sir Fynwy wedi cadw at y Datganiad hwn, cysylltwch â ni: 

Trwy e-bost yn: foster@monmouthshire.gov.uk  

Dros y ffôn: 01873 735950 

Yn ysgrifenedig: Neuadd y Sir, Y Radur, Brynbuga, NP15 1GA.