cystadleuaeth cynllunio blodyn haul fcf22
cystadleuaeth cynllunio blodyn haul fcf22
Yn galw pob person ifanc creadigol. Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn eich gwahodd i gyflwyno eich cynlluniau Blodyn Haul gwreiddiol i ddathlu Bythefnos Gofal Maeth© 2022!
Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth© eleni, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn cynnal cystadleuaeth ‘Cynllun Blodyn Haul’ ac yn gofyn i bobl ifanc yn y gymuned leol i gymryd rhan yn greadigol. Mae blodau haul yn cynrychioli sut y gall gofalwyr maeth faethu plant sy’n derbyn gofal fel y gallant ffynnu a thyfu i’w potensial llawn.
Y Bythefnos Gofal Maeth© yw ymgyrch fwyaf Prydain i godi ymwybyddiaeth o ofal maeth, a gyflwynir gan yr elusen faethu flaenllaw, The Fostering Network. Thema eleni yw Cymunedau Maethu (#FosteringCommunities) i ddathlu nerth a gwytnwch cymunedau maethu a phopeth a wnânt i sicrhau fod plant yn cael gofal a’u cefnogi i ffynnu.
Mae’n gobeithio dangos y llu o ffyrdd y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 – a dangos yr angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob ysgol gynradd yn Sir Fynwy.
Dyma’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen a sut i gyflwyno eich cynllun.
- Grŵp oedran 4 – 11
- Gwobrau fydd: 1af £25, 2il £15, 3ydd £10
- Llun i’w gynllunio ar y dudalen A4 a roddwyd
- Gallwch fod mor greadigol ag yr hoffwch gyda phaent, creonau, pensiliau, pen, inc neu ben ffelt, a gellir defnyddio unrhyw ddeunyddiau ar gyfer y cynllun.
- Mae’n rhaid i bob llun fod â’r wybodaeth hon wedi’i phrintio’n glir ar y cefn. Enw Llawn, Oedran, Grŵp Blwyddyn, Enw’r Ysgol · Dylid anfon lluniau at: LizTrigg@monmouthshire.gov.uk