PGM23

Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Ngwent i gefnogi gofalwyr maeth

Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Ngwent i gefnogi gofalwyr maeth.

 

Roedd bron 5000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru y llynedd. Mae angen brys i gael mwy o bobl i faethu dros eu hawdurdod lleol fel y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc i aros yn eu cymunedau lleol.

 

Wrth i deuluoedd ar draws y sir gael trafferthion gyda’r argyfwng parhaus mewn costau byw, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’ yn y gobaith o fynd i’r afael â’r camsyniad na allwch barhau i weithio os ydych yn dod yn ofalwr maeth.

 

Yn ystod Bythefnos© Gofal Maeth (15-28 Mai 2023) mae The Fostering network, prif elusen faethu y Deyrnas Unedig, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a’i gwneud yn rhwyddach i’w gweithwyr i faethu a gweithio.

 

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall ac mae eu polisi ‘cyfeillgar i faethu’ yn annog cyflogwyr i roi hyblygrwydd ac amser bant ar gyfer gweithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd drwy’r broses gais.

Mae’r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd hefyd yn ofalwyr maeth i roi amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, mynychu panel maethu a chyfarfodydd, a setlo plentyn newydd i’w cartref ac ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.

 

Gallai cael cefnogaeth cyflogwr wneud gwahaniaeth hollbwysig ym mhenderfyniad gweithiwr i wneud cais i ddod yn ofalwr maeth.

 

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru i gamu lan.

“Gwyddom ein bod yn gweld gwell canlyniadau pan fydd plant yn aros mewn cysylltiad, aros yn lleol ac yn cael rhywun sy’n cadw atynt am yr hirdymor.

“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i aros mewn cysylltiad gyda’u gwreiddiau ac yn y pen draw eu cefnogi tuag at well dyfodol.”

 

Roedd 1115 o blant mewn gofal maeth yng Ngwent y llynedd, ond mae’r nifer yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn. Rydym yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gofalwyr maeth oherwydd ffactorau tebyg i’r cynnydd mewn costau byw a phoblogaeth heneiddiol o ofalwyr maeth.

 

Yn y Pythefnos Gofal Maeth eleni (15-28 Mai 2023), rydym yn cymryd rhan mewn nifer o gynlluniau i annog busnesau lleol i ddod yn gyfeillgar i faethu.

 

Mae timau maethu o awdurdodau lleol Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd yn cysylltu â busnesau lleol gyda phobl cadwyn bapur Maethu Cymru a luniwyd yn arbennig sy’n nodweddu cymunedau maethu a chydweitho i greu dyfodol gwell ar gyfer plant lleol. Ein nod yw gwneud hon y cam cyntaf wrth adeiladu perthynas barhaus gyda busnesau ar draws Gwent.

 

Mae’r byd o’n cwmpas yn newid yn gyson ac mae angen i faethu addasu i’r newidiadau hyn. Rydym eisiau cefnogi ein cymuned o ofalwyr maeth sy’n gweithio a maethu ac annog pobl iau, yn aml na fedrant neu nad ydynt eisiau ystyried dod yn ofalwyr maeth. Gyda chefnogaeth eu cyflogwyr, gallent gyfuno ymrwymiadau gwaith gyda maethu. Ar gyfer hyn mae angen i gynifer o fusnesau ag sydd o modd i ystyried ddod yn gyflogwyr cyfeillgar i faethu.

 

Dywedodd Alison Ramshaw, Pennaeth Arweiniol Gwasanaethau Plant Maethu Cymru ar draws Gwent:

“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn sicr yn her i bawb ohonom, ond rydym wedi gweld llawer o drugaredd ac ymroddiad gan ein gofalwyr maeth gwych. Maent wedi agor eu cartrefi i blant ac yn parhau i wneud hynny, er llawer o ymdrechion ac anawsterau yn gysylltiedig gyda’r argyfwng costau byw. Rydym eisiau dweud diolch ynf awr a chyfleu ein gwerthfawrogiad am bopeth y maent wedi ei wneud.

Mae ymestyn allan i gyflogwyr lleol fod yn gyfeillgar i faethu yn un o lawer o bethau a wnawn i gefnogi ein gofalwyr maeth. Mae’n rhaid i faethu addasu i’r amgylchiadau anarferol y mae pawb ohonom ynddynt a gobeithiwn, drwy ddod yn gyfeillgar i faethu, y bydd busnesau ar draws Gwent yn ein helpu i annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth. Drwy gydweithio, gallwn gefnogi gofalwyr maeth ac yn ei dro wella bywydau plant lleol sydd angen cartrefi diogel a chariadus.”

 

Maethu Cymru yw gwasanaeth maethu dim-er-elw eich awdurdod lleol. Fel gofalwr maeth awdurdod lleol, gallech helpu plant i aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a theulu ac aros yn eu hysgol lle bynnag mae modd. Gall hyn eu helpu i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn yn ystod cyfnod o newid.

 

Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am bob plentyn sydd mewn gofal maeth. Eich tîm Maethu Cymru lleol yw’r arbenigwyr a chefnogant ofalwyr maeth bob cam o’r ffordd gyda’u cyfoeth o wybodaeth a gweithwyr cymdeithasol ymroddedig sy’n cydweitho gyda thîm cyfan o amgylch y plentyn.

 

A fyddai gan eich cyflogwr ddiddordeb mewn cefnogi gofalwyr maeth, drwy gyflwyno polisi adnoddau dynol gwaith hyblyg?

Gadewch i ni wybod os gallai eich gweithle ddod yn gyfeillgar i faethu.

I ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu neu ganfod mwy am y cynllun, cysylltwch gyda The Fostering Network fosteringfriendly@fostering.net.

 

Eich cymuned. Ein cymuned. Oherwydd gall aros yn lleol yn aml olygu’r byd i blant.

dysgwch fwy am faethu yn Sir Fynwy

Ymunwch â ni am sgwrs:

  • Dydd Llun 15fed Mai

Hyb Cymunedol Cil-y-coed – 10am-1pm
ASDA – 2pm – 5pm

  • Dydd Mawrth Mai 16eg

Hyb Cymunedol Cas-gwent – 10am-2pm
Canolfan Groeso Cas-gwent – 2:30pm-4pm

  • Dydd Iau 18fed Mai

Waitrose Y Fenni – 10am-3pm

  • Dydd Llun 22ain Mai

Hyb Cymunedol Trefynwy – 10am-4pm

  • Dydd Mawrth 23ain Mai

Hyb Cymunedol Gilwern – 10am-3pm (ar gau dros ginio 1pm-1:30pm)

  • Dydd Mercher 24ain Mai

Hyb Cymunedol Brynbuga 10am-2pm

  • Dydd Iau 25ain Mai

Hyb Cymunedol y Fenni – 10am-3pm (ar gau dros ginio 1pm-2pm)
Marchnad Stryd Nos Y Fenni – 5pm-9pm

  • Dydd Sad 27th / Sul 28th May

Gwyl Gerdd y Dyfawden
Dydd Sadwrn 10am-4pm
Dydd Sul 10yb-2yp

cysylltwch â ni heddiw am sgwrs anffurfiol am faethu

Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Call 01291 635682

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon

neu lenwi’r ffurflen ymholiad a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn

  • Cyngor Sir Fynwy yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.