Maethu Plant ar Ben eu Hunain sy’n Ceisio Lloches - Foster Wales Monmouthshire

blog

Maethu Plant ar Ben eu Hunain sy’n Ceisio Lloches

Maethu Plant ar Ben eu Hunain sy’n Ceisio Lloches

Mae gwir brinder teuluoedd maeth a all gynnig cartref diogel i blant ar ben eu hunain sy’n ceisio lloches. Gan gofio am y sefyllfaoedd presennol yn Wcráin, Afghanistan a rhyfeloedd eraill, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn edrych fel mater o frys am ofalwyr maeth a all roi’r gefnogaeth, arweiniad a gofal sydd eu hangen i helpu’r bobl ifanc fregus hyn.

Gall maethu pobl ifanc sy’n ceisio lloches fod yn heriol ond mae hefyd yn werth chweil tu hwnt wrth i chi ddechrau eu gweld yn setlo i’w bywyd newydd.

Felly sut mae mynd ati?

Bydd yn rhaid i chi yn gyntaf gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth er mwyn rhoi cartref i blant a phobl ifanc ar ben eu hunain sy’n ceisio lloches. Mae’r broses hon yn cymryd tua 6 mis fel arfer.

Y cam cyntaf yw gwirio eich bod yn cyflawni’r gofynion sylfaenol i ddod yn ofalwr maeth:

  • Mae’n rhaid i chi fod o leiaf 18 mlwydd oed
  • Mae’n rhaid i chi fod ag ystafell wely sbâr
  • Mae’n rhaid i chi fod â’r amser a bod ar gael i ymroi i faethu

Sut rai fydd plant sy’n ceisio lloches?

Y peth pwysicaf i’w gofio y bydd y rhan fwyaf o blant rhwng 11-17 oed – ac mai bechgyn fydd canran fawr ohonynt. Yn wahanol i faethu plant o Sir Fynwy, efallai mai ychydig iawn a wyddom am blant sy’n ceisio lloches pan fyddant yn cyrraedd.

Yr hyn a wyddom yw y byddant wedi profi trawma o wahanol raddau cyn gadael eu mamwlad. Efallai y byddant wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd – gall rhai hyd yn oed fod wedi colli perthnasau oherwydd gwrthdaro yn eu mamwlad. Beth bynnag y rhesymau, byddant yn cyrraedd yn flinedig, bregus ac efallai yn ofnus iawn.

Sut beth yw hi i faethu pobl ifanc sy’n ceisio lloches

Fel gofalwr maeth, eich tasg fydd cefnogi’r bobl ifanc hyn a chreu amgylchedd diogel, gan eu helpu i setlo i’w cymuned newydd. Byddant angen eich help i ddysgu gyda rhwystrau iaith ac – yn bwysicaf oll – teimlo fod rhywun yno i’w gwarchod ac eiriol drostynt. Gall hefyd fod angen i chi gefnogi pobl ifanc drwy’r broses o wneud cais am ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn ceisio lleoli plant a phobl ifanc gyda theuluoedd lle gall peth o’u diwylliant, crefydd ac iaith eisoes fod ar gael. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl bob amser ac rydym felly angen gofalwyr maeth dyfeisgar a all hwyluso’r person ifanc i gadw eu hunaniaeth tra hefyd yn addasu i amgylchedd diwylliannol newydd.

Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda chi ac yn rhoi hyfforddiant arbenigol i’ch helpu i gefnogi plant sy’n ceisio lloches.

Cymorth a hyfforddiant arbenigol

Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu ffoaduriaid a phlant ar ben eu hunain sy’n ceisio lloches, byddwn yn dynodi cyrsiau hyfforddiant perthnasol fydd yn helpu i’ch cefnogi yn y rôl hon. Byddwn yn sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn gwybod am ddiwylliant cefndiroedd y plant gan y bydd hyn yn eich galluogi i ddeall anghenion y person ifanc yn well.

Bydd ein tîm maethu yno i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd, gan roi’r arweiniad a’r help sydd ei angen i roi sefydlogrwydd i’r bobl ifanc yn eich gofal. Cysylltwch gyda ni heddiw os credwch y gallech wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn!

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.