Mis meibion a merched - Foster Wales Monmouthshire

blog

Mis meibion a merched

Mis Meibion a Merched yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i ddathlu cyfraniad hollbwysig plant gofalwyr maeth mewn cartref sy’n maethu. Mae’n gyfle i roi sylw i faint a wnânt ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal a pha mor bwysig ydynt i faethu llwyddiannus.

Felly drwy gydol mis Hydref rydym yn clywed cymaint ag sy’n bosibl gan blant gofalwyr maeth. Rydym eisiau clywed eu straeon a dysgu mwy sut beth yw bod yn rhan o deulu maeth mewn gwirionedd – beth sy’n wych a beth nad yw cystal – i helpu wneud maethu yn well i bawb.

Ava’s stori

Felly fe wnaethom siarad gyda Ava, sydd bron yn 8 oed, i roi golwg i ni ar fywyd yn ei chartref.

Beth fyddet ti wedi hoffi ei wybod cyn i dy deulu ddechrau maethu?

Nad yw mam a dad weithiau’n gwybod os ydyn ni’n cael mynd i leoedd cyn gofyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Beth yw rhai o’r pethau da am fod yn rhan o deulu maeth?

Rydw i’n hoffi cael pawb yma oherwydd mod i’n hoffi cael pobl i chwarae gyda nhw a siarad gyda nhw os ydi mam yn brysur neu’n gwneud cinio. Weithiau rydw i’n drist os oes rhywun yn gas i, ond mae’n iawn nawr. Rydw i’n hoffi cael brodyr a chwiorydd a rydyn ni’n gwneud llawer o bethau gyda’n gilydd. Rydw i’n hoffi cael mam gartref ac yn mynd â ni yr ysgol bob dydd gan nad ydi hi’n gweithio mewn swyddfa ddim mwy.

Beth yw rhai o heriau maethu?

Weithiau mae’n gorfod mynd â’r bechgyn i amser teulu ac rwy’n drist oherwydd mod i eisiau mynd hefyd.

Sut wyt ti’n deimlo am fod o rhan o deulu sy’n maethu?

Rydw i’n hoffi cael rhywun i chwarae gyda nhw a rydyn ni’n gwneud llawer o bethau ar ddyddiau pan nad oes ysgol. A rydyn ni’n helpu hefyd oherwydd dywedodd mam nad oes digon o dai i’r holl blant fyw ynddyn nhw.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.