Pam fod angen mwy o Ofalwyr Maeth Du a Lleiafrifoedd Ethnig arnom - Gomisiynydd Plant Cymru - Foster Wales Monmouthshire

blog

Pam fod angen mwy o Ofalwyr Maeth Du a Lleiafrifoedd Ethnig arnom – Gomisiynydd Plant Cymru

Neges bwysig o gefnogaeth i’n hymgyrch i recriwtio mwy o ofalwyr maeth o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig gan Gomisiynydd Plant Cymru

“Mae maethu yn wasanaeth hanfodol sydd yn medru cynnig amgylchedd diogel a chariadus i rai o’r plant mwyaf bregus.

“Mae plant sydd yn mynd i’r system ofal yn dod o amryw o gefndiroedd, ac felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael ystod eang o ofalwyr maeth arfaethedig hefyd.

“Gyda phlentyn sydd yn mynd drwy brofiad ansicr ac anodd, mae teulu maeth sydd yn deall cefndir diwylliannol y plentyn, yn siarad iaith gyntaf y plentyn neu’n arfer yr un grefydd yn medru gwneud gwahaniaeth mawr er mwyn helpu’r plentyn hwnnw i deimlo’n ddiogel ac yn gysurus.

“Mae teuluoedd yn amrywio o ran siâp, maint, lliw a diwylliant, ac mi ddylai teuluoedd maeth adlewyrchu hyn – rwyf yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried maethu i gysylltu gan fod yna blant o gefndiroedd amrywiol sydd angen y cymorth hwnnw.”

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru; mae hi wedi llenwi’r rôl yma ers Ebrill 2022.

Pwrpas ei swydd yw dweud wrth eraill am bwysigrwydd hawliau plant, ac i edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.