Pam y trosglwyddais i wasanaeth maethu Awdurdod Lleol

blog

Pam y trosglwyddais i wasanaeth maethu Awdurdod Lleol

Dechreuodd Kay ei thaith faethu yn 2009 gydag asiantaeth faethu fasnachol annibynnol (IFA).  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, penderfynodd drosglwyddo i wasanaeth maethu ei hawdurdodau lleol ac mae wedi bod yn maethu i Sir Fynwy Maethu ers hynny.

Siaradon ni â Kay am ei phrofiad maethu a’r rhesymau pam y penderfynodd drosglwyddo i ni.


Pryd ddechreuoch chi faethu?

K: Dwi wedi bod yn maethu ers tua 14 mlynedd nawr.  Ers Rhagfyr 2019 dwi gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, ychydig cyn i ni fynd i mewn i’r cyfnod clo.

Beth wnaeth i chi feddwl am faethu?

K: Ar y pryd, wnes i roi’r gorau i redeg busnes arlwyo.  Tyfodd fy mhlant i fyny a symud i ffwrdd. Meddyliais i fy hun, “Beth nawr?“.  Yna daeth fy mab ataf un diwrnod a dweud, “Mam, beth am ystyried maethu?“.

Roedd yn rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdano, a dywedodd fy mab wrtha i ei fod yn credu y byddwn i’n dda iawn yn maethu. Anogodd fi i wneud ymholiad a chael gwybod amdano. 

Ar ôl yr ymweliad cartref cychwynnol, roeddwn i’n teimlo y byddwn i wir yn hoffi maethu. 

Felly, dechreuoch chi gydag IFA?

K: Ie mi wnes i.  Pan es i faethu am y tro cyntaf, doeddwn i ddim wir yn edrych ar wahanol wasanaethau maethu, roedd y cyfan i’w weld yr un fath i mi.

Sut aeth hynny a pham wnaethoch chi benderfynu trosglwyddo?

K: Roedd popeth yn iawn, pan ddechreuais i roedd yn grêt, ond wedyn o’n i jyst wedi digalonni â nhw. Fy ffrind wnaeth fy annog i fynd i edrych ar wasanaeth maethu awdurdod lleol Sir Fynwy.

Es i lawr a siarad gyda’r tîm, ac o’n i jyst yn teimlo y bydde fe’n lot haws i fi. 

Roedd rhaid i fi deithio lot pan o’n i gydag IFA, ac roedd Sir Fynwy yn fwy lleol i fi.

O’n i gydag asiantaeth annibynnol, ond o’n i’n delio lot â chyngor Sir Fynwy.  Yn y bôn, roeddwn i’n gwneud gwaith yr IFA, bach fel bod y person yn y canol o ran cyfathrebu, felly roedd yn teimlo fel yr opsiwn gorau i mi oedd trosglwyddo.

Sut oeddech chi’n teimlo am y broses drosglwyddo?

K: Doedd y broses i drosglwyddo ddim yn cymryd yn hir, efallai cwpl o fisoedd.  Ceisiodd IFA fy nghadw i achos roeddwn i wedi bod gyda nhw am bron i 8 mlynedd; doedden nhw ddim eisiau i mi fynd. Ond ar y pwynt yna fe wnes i benderfynu beth i wneud.

Fe wnes i drosglwyddo gyda’r plant oedd gyda fi yn IFA, fyddwn i ddim wedi ei wneud os na fydden nhw’n dod gyda fi.  Mae’r plant yma yn lleol i ardal Sir Fynwy, maen nhw wedi bod gyda fi ers 9 mlynedd.  Fy nod bob amser oedd creu cartref go iawn iddyn nhw, nid lle dros dro i aros. 

Ar ôl i chi drosglwyddo, beth oedd eich argraff gyntaf o Faethu Cymru?

K: Gydag IFA cefais bron ormod o ymweliadau yn wythnosol; roedd e jyst yn ddi-dor. 

Gyda Maethu Cymru, mae’r gefnogaeth yn wych, ond dydw i ddim yn teimlo fy mod yn cael fy mhoeni drwy’r amser.

Mae hefyd yn creu amgylchedd gwell i’r plant, fel teulu arferol, ac mae’n fwy personol. 

Mae Maethu Cymru yn darparu pob cefnogaeth sydd ei angen arnaf, neu os oes angen unrhyw beth ar y plant, mae gen i weithwyr cymdeithasol bob amser ar gael ar y ffôn, ac mae’r dull yma yn gwneud i mi deimlo’n fwy ymlaciol.  Ers i mi drosglwyddo maethu mae wedi bod yn llawer haws.

A fyddech chi’n gwneud penderfyniad i fod yn ofalwr maeth eto?  Beth wnaeth maethu rhoi i chi?

K: Os oeddwn i’n ifanc eto, byddwn i’n bendant yn ei wneud e.

Mae’r plant sydd gyda fi nawr yma am yr hir dymor. Roeddwn i eisiau creu cartref iddyn nhw.  Mae un ohonyn nhw’n mynd i fod yn 18 oed yn fuan ac un yn 13 oed.  Fel gyda fy mhlant fy hun, byddaf yn gofalu amdanyn nhw cyn belled â’u bod nhw fy angen i; dyma’u cartref.

Mae maethu yn newid eich bywyd.  Beth fyddwn i wedi ei wneud heb wneud hyn?  Mae’n rhoi pwrpas newydd i chi mewn bywyd, ac mae’n rhoi boddhad i chi wneud.  Mae’n heriol ar adegau, ond dwi’n falch ‘mod i wedi ei wneud e ac erbyn hyn dwi’n meddwl y dylwn i fod wedi ei wneud flynyddoedd yn ôl.

Beth yw’r her fwyaf o faethu?

K: O’n i’n eitha lwcus gyda’r plant ddaeth ata i, ond mae heriau bob amser. Fel gofalwr maeth mae angen i chi fod yn barod am y ffaith y gall plant gael amrywiaeth o broblemau, trawma, a phroblemau ymddygiad.

Mae’r plant iau yn tueddu i wrando arnoch chi a’ch trin chi fel model rôl, oherwydd maen nhw’n dal i ddibynnu arnoch chi am lawer o bethau.  Ar ôl iddyn nhw gyrraedd llencyndod, maen nhw’n dod yn fwy annibynnol, mae ganddyn nhw farn gryfach, ac nid yn meddwl bod angen eich help na’ch cyngor arnyn nhw. Felly weithiau mae’n rhaid i chi ddelio â rhywun sydd yn eu harddegau sydd ddim eisiau dod nôl adref ar amser neu sy’n aros allan yn hwyr heb ddweud wrthych chi ble maen nhw.

Y gwir yw eu bod yn dal angen help ond mwy mewn ffurf o arweiniad a chymorth emosiynol.
Dydy fy mywyd yn bendant ddim yn ddiflas (chwerthin); mae maethu yn fy nghadw i fynd.

Ydych chi’n teimlo fel bod ymdeimlad o gymuned maethu yn Sir Fynwy?

K: Os ewch chi i grwpiau cymorth, gallwch gwrdd â phobl a siarad â gofalwyr maeth eraill.  Mae gennych ddewis bob amser.  Rwy’n aml yn teimlo’n rhy brysur i fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond ers pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo mae’n llawer haws nawr i fynd i ddigwyddiadau ar-lein os na allaf wneud hynny mewn gwirionedd.  Felly, mae yna ymdeimlad yma o gymuned a dwi’n gwybod ei fod yno i fi bob amser os ydw i ei angen.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am drosglwyddo i wasanaeth maethu Awdurdodau Lleol?

K: Byddwn i’n dweud cysylltu â’r tîm, maen nhw’n gyfeillgar iawn, gallan nhw ddweud popeth sydd angen i chi ei wybod a’ch helpu i benderfynu.  Nid yw’n benderfyniad hawdd i’w wneud, ond i mi, daeth maethu yn llawer haws ers i mi drosglwyddo i Faethu Cymru Sir Fynwy. I fi doedd hi ddim yn broses gymhleth chwaith, felly beth am roi cynnig arni?

Ydych chi’n barod yn maethu?

Hoffech chi drosglwyddo i ni ac ymuno â’n cymuned faethu anhygoel yn Sir Fynwy?  Mae’n syml.

Ewch i’n tudalen Maethu’n Barod am ragor o fanylion neu cysylltwch â ni dros y ffôn 01291 635682 neu e-bostiwch fostering@monmouthshire.gov.uk. Mae’r sgwrs gychwynnol yn gyfrinachol rhyngom ni a chi.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi lles gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnânt.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.