Profiad Carys o ofal maeth - maethu cymru sir fynwy

blog

Profiad Carys o ofal maeth

Carys a oedd wedi derbyn gofal maeth yn rhannu ei thaith gyda ni   

Aeth Carys, sy’n 20 mlwydd oed erbyn hyn, i mewn i ofal maeth am y tro cyntaf pan oedd yn 11 mlwydd oed, a threuliodd  bedair blynedd yn derbyn gofal. Yn ystod ei chyfnodau mewn lleoliadau gwahanol, roedd  Carys wedi derbyn gofod diogel i fynegi ei hun a chafodd sylfaen o gadernid  a chariad. Adeiladodd berthynas gryf gyda’i gofalwyr maeth, eu plant hwy a’r plant eraill a oedd ganddynt yn derbyn gofal a bydd yn gwerthfawrogi hyn am weddill ei bywyd.

Mae Carys yn gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill i ystyried rôl fel gofalwr maeth, sydd nid yn unig yn werth chweil ond hefyd yn medru adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.   

Dyma stori Carys:

“Fy enw i yw Carys, ac mi wnes i fynd i ofal am y tro cyntaf pan oeddwn yn 11 mlwydd oed. Roedd wedi mynd i rai llefydd am rai diwrnodau yn unig tra oedd mewn llefydd eraill am ddwy flynedd. Rwyf wedi bod gyda gofalwyr o bob oedran ac yn rhan o drefniadau teuluol gwahanol.  

Yn fy marn i, mae bod yn ‘hŷn’ wrth i ni fynd i ofal maeth yn medru bod yn anodd i blentyn a’r gofalwr/gofalwyr maeth, oherwydd erbyn i mi fynd i dderbyn gofal yn 11 mlwydd oed, roeddwn eisoes wedi datblygu ymdeimlad o hunaniaeth a’n meddu ar fy marn fy hun. Roedd gen i ddealltwriaeth hefyd o’m teulu  a’r amgylchiadau a oedd wedi fy arwain i fynd i dderbyn gofal. Roeddwn wir yn gwerthfawrogi pan oedd fy ngofalwyr maeth yn deall hyn ac yn fy nghaniatáu i mi siarad am fy nheulu a’r gorffennol tra hefyd yn dangos diddordeb ac yn gofalu amdanaf. Teimlais fod y teuluoedd yma yng nghynnwys fel rhan o’u bywydau, yn enwedig os oes  plant eraill ganddynt (boed yn blant biolegol neu’n blant maeth eraill). Roedd pethau bach fel cael fy nghynnwys mewn gweithgareddau gwahanol o siopa bwyd, mynd allan am ddiwrnodau neu hyd yn oed ar wyliau wledydd tramor yn bwysig iawn i mi. Rwy’n deall ei fod yn anodd i daro’r cydbwysedd rhwng bod yn rhan o’u teulu tra hefyd yn derbyn bod teulu eu hunain ganddynt. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi ymgais y gofalwyr maeth i esbonio beth yw maethu i’w plant ac yn eu helpu hwy i’m derbyn i mewn i’w cartrefu gan i hyn olygu ei fod yn fwy hawdd i ni gyd-dynnu’n dda.

Rwy’n gwybod bod maethu yn medru bod yn anodd ar adegau. Weithiau, byddem yn ddig, wedi cynhyrfu a’n rhwystredig a byddem yn aml yn mynegi hyn i’m gofalwyr maeth. Nid oedd hyn yn rhywbeth personol yn eu herbyn hwy, ac felly, roedd siarad a thrafod pethau yn ystod y cyfnodau anodd yma mor bwysig, ac roeddynt yn deall ein bod yn cyffroi a’n teimlo’n ddig weithiau am ein bod yn gorfod derbyn gofal a bod i ffwrdd o’n teuluoedd. Roedd yn helpu gymaint pan oeddynt yn dangos empathi ac yn deall sut oeddwn yn teimlo.    

Mae bod yn ofalwr maeth yn fwy na swydd, mae’n rhaid i ofalwyr i fod yn agored a’n gariadus tuag at y plentyn, yn cynnig cartref ac amgylchedd diogel iddynt. Er bod hyn yn heriol weithiau, mae’n werth chweil. Rwyf dal mewn cysylltiad gyda rhai o’n cyn-ofalwyr maeth nawr ac maent dal yn dangos diddordeb ynof a’r hyn yr wyf yn ei wneud. Byddaf yn fythol ddiolchgar i’r sawl sydd wedi fy maethu ac wedi bod yn rhan bwysig o’m bywyd.”

A ydych am ddechrau eich taith maethu eich hun?

Os yw darllen stori Carys wedi gwneud i chi  feddwl bod maethu yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, yna rydym am glywed wrthych. Cysylltwch gyda ni a dechreuwch eich taith heddiw.   

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.