ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yn sir fynwy?

Mae plant i gyd yn wahanol, ac mae’r rhieni maeth sydd eu hangen arnyn nhw’n wahanol hefyd. Yn syml, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth? Ac, ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth?

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ac yn credu mai’r sgiliau a’r profiad y gallwch eu cynnig sydd bwysicaf.

Beth bynnag yw eich ethnigrwydd, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich crefydd neu’ch statws priodasol, os ydych chi’n meddwl y gallwch chi ddarparu cartref diogel a chefnogol i blentyn, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Rhan greiddiol o faethu yw rhannu profiad a gwybodaeth; y gofalwr maeth yn rhannu â’r plentyn, ond hefyd ein harbenigwyr yma yn Maethu Cymru Sir Fynwy yn rhannu â’n gofalwyr.

Ynghyd â ffrindiau, teulu, yr ysgol a’r gymuned leol, mae ein tîm wastad wrth law fel eich canolfan arbenigol benodol i ateb unrhyw gwestiynau a darparu cefnogaeth a hyfforddiant lle bo angen.

 

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Fel sy’n wir am rieni biolegol neu warcheidwaid teuluol, mae rhai gofalwyr maeth yn gweithio’n llawn amser. Mae amserlen waith hyblyg yn angenrheidiol, ac mae gyrfa brysur yn gallu golygu bod angen rhywfaint o feddwl a chefnogaeth ychwanegol gan deulu a ffrindiau.

Mae rhai rhieni maeth sy’n gweithio’n llawn amser yn dewis cynnig seibiant byr ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau, ac mae eraill yn cynnig lleoliadau tymor hir sy’n cael eu cefnogi gan aelodau o’r teulu.

Mae maethu yn ymrwymiad ac mae’n dod yn gyntaf, felly mae angen mynd ati i weithio fel tîm. Y tu hwnt i’r teulu, byddwn ni’n helpu i ddarparu uned gymorth o weithwyr cymdeithasol, therapyddion ac athrawon, fel bod cyngor ac arweiniad ar gael ar bob cam o’r daith.

 

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Dydy bod yn berchen ar gartref ddim yn hanfodol, ond mae ymdeimlad o ddiogelwch yn hanfodol. Felly, os ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais, os oes gennych chi’r lle i gynnig cartref cariadus a sefydlog i blentyn, byddwch chi’n cael eich ystyried.

 

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Rydyn ni’n credu, os oes gennych chi blant eich hun, yna mae’n debygol bod gennych chi’r wybodaeth a’r profiad i ymestyn eich teulu a gofalu am blentyn maeth.

Mae cael plant eraill o gwmpas hefyd yn gallu helpu i ffurfio cyfeillgarwch, meithrin y gallu i ofalu a chefnogi eraill, a gweithio fel tîm.

Fodd bynnag, does dim rhaid cael teulu. Mae oedolion heb blant hefyd yn gallu maethu yn Sir Fynwy.

 

ydw i’n rhy hen i faethu?

Os ydych chi yn eich 20au neu yn eich 70au, os hoffech chi faethu plentyn yn Sir Fynwy, byddwch yn cael eich ystyried.

Does dim uchafswm oedran ar gyfer maethu, a bydd pawb yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant.

 

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Cyn belled â’ch bod chi’n oedolyn a’ch bod chi’n gallu darparu system gymorth ddibynadwy i blentyn, gallwch chi faethu.

Mae profiad bywyd yn fonws mawr, ond dydy hyn ddim yn angenrheidiol. Mae pob gofalwr maeth yn cael cynnig cefnogaeth a hyfforddiant unigol.

 

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Os ydych chi’n briod, yn sengl, wedi ysgaru neu’n weddw, gallwch chi fod yn ofalwr maeth yn Sir Fynwy.

Does dim gofynion penodol o ran perthynas, dim ond yr angen am gefnogaeth a sefydlogrwydd.

Efallai y bydd angen cymorth gan ffrindiau a theulu ar ofalwyr maeth sengl sy’n gweithio’n llawn amser, ond gallan nhw faethu hefyd.

 

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Sut bynnag rydych chi’n ystyried eich hun, gallwch chi faethu.

Dydy eich rhyw a’ch rhywedd ddim yn dylanwadu ar eich gallu i faethu. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sydd bwysicaf.

 

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor wrth asesu eich gallu i faethu ac mae croeso i bawb LHDTC+ wneud cais.

 

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Mae tyfu i fyny o gwmpas anifeiliaid anwes yn gallu bod yn brofiad gwerth chweil i blentyn, ond mae gan rai alergeddau, felly bydd eich anifeiliaid anwes yn cael eu cynnwys yn eich asesiad i sicrhau y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn cyd-dynnu.

 

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gan Awdurdodau Lleol wahanol bolisïau sy’n ymwneud ag ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) a gofal maeth, a’r peth pwysicaf yw bod yn onest. Byddwn yn cynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os hoffech chi wneud hynny. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

 

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

P’un ai ydych chi’n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ddi-waith, fydd eich statws gwaith ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth.

Os gallwch chi ddarparu cefnogaeth, arweiniad, cariad a diogelwch, gallwn ni weithio gyda chi i adolygu holl agweddau pwysig maethu plentyn i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi.

 

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Does dim angen tŷ enfawr arnoch i faethu plentyn, dim ond ystafell sbâr lle gall y plentyn deimlo’n gartrefol. O fflatiau dwy lofft i dai pum llofft, mae pob cartref maeth yn Sir Fynwy yn wahanol.

rhagor o wybodaeth am faethu

Boy catching football

mathau o faethu

O seibiant byr i leoliadau tymor hir, mae sawl ffordd wahanol o wneud gwahaniaeth drwy faethu.

mathau o faethu

cwestiynau cyffredin

O ddeall y broses i ateb cwestiynau cyffredin, rydyn ni yma i helpu.

mae'r atebion ar gael
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni heddiw

  • Cyngor Sir Fynwy yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.