pam dewis Maethu Cymru?

Dim eich asiantaeth faethu safonol yw Maethu Cymru.

Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw ledled Cymru.

Sut mae hynny’n ein gwneud ni’n wahanol? Wel, mae gennyn ni bresenoldeb cenedlaethol sy’n seiliedig ar arbenigedd lleol, a’n nod yw gweithio fel tîm i greu gwell dyfodol i blant lleol, dim er mwyn gwneud elw.

Ein nod yw cadw plant yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.

ein cenhadaeth

Gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i blant lleol.

Rydyn ni’n annog pobl ar draws Cymru i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol a bod yn ofalwyr maeth gyda’u Hawdurdod Lleol. Yna gallwn ni ddod o hyd i’r cartref a’r teulu gorau ar gyfer pob plentyn, gan greu gwell dyfodol i blant a’r bobl sy’n eu maethu.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

ein cefnogaeth

Os ydych chi’n chwilio am resymau dros fod yn rhiant maeth yn Sir Fynwy, mae’r system gefnogi ragorol yn un ohonyn nhw.

Mae gan bob un o’n gofalwyr, a’r plant yn ein gofal, rwydwaith cefnogi lleol, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd, cyngor a hyfforddiant penodol i’ch helpu ar eich taith i faethu.

ein ffyrdd o weithio

Fel rhwydwaith, mae cysylltiadau a chydweithio wrth galon popeth rydyn ni’n ei
wneud.

Rydyn ni’n dod i’ch adnabod chi’n iawn. Dydyn ni ddim yn ffigur pell neu anhysbys ar ben cyfeiriad e-bost, rydyn ni’n rhan o’r gymuned ac yn wyneb cyfarwydd.

Mae pob plentyn yn wahanol, felly mae’n rhaid i’n tîm o ofalwyr a staff cymorth fod yn wahanol hefyd. Rydyn ni’n addasu i helpu gofalwyr maeth i wneud y gorau o’u talentau ac i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i dyfu a datblygu.

eich dewis

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn sy’n gofalu yn eich cymuned. I ymuno â thîm, i ddysgu ac i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant Cymru.

Cysylltwch â ni yma yn Maethu Cymru Sir Fynwy a chymerwch y cam cyntaf heddiw.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni heddiw