sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Mae maethu yn Sir Fynwy yn brofiad cysylltiedig. Gyda rhwydwaith pwrpasol yn darparu arbenigedd, cefnogaeth broffesiynol ac arweiniad pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, mae ymdeimlad cryf o gysylltiad rhwng ein timau a gofalwyr maeth.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Maethu Cymru Sir Fynwy yw gwasanaeth maethu’r Awdurdod Lleol. Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n cael canlyniadau gwell pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd fel cymuned leol.

Dyna pam rydyn ni’n ceisio darparu cefnogaeth ym mhob ffordd y gallwn ni. I’n gofalwyr a’n teuluoedd maeth. I’r plant yn ein gofal. Ac, i’n gweithwyr proffesiynol medrus sy’n helpu i wneud maethu yn Sir Fynwy yn brofiad gwerth chweil.

Fel rhan o dîm ehangach Maethu Cymru, rydyn ni’n cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r un ar hugain o sefydliadau maeth nid-er-elw eraill sydd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn ni yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu gyffredin. Rydyn ni’n dîm cenedlaethol o 22 o dimau maethu sydd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i helpu plant mewn gofal maeth i aros yn yr ardal leol y maen nhw’n ei hadnabod ac yn ei charu cyn belled â’i bod hi’n iawn iddyn nhw wneud hynny.

Rydyn ni’n helpu plant mewn gofal i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth drwy gefnogi ffrindiau, ysgolion, clybiau a chymunedau gyda’n gwasanaethau cymorth ar lefel gymunedol leol.

Mae deall, pob plentyn unigol, gofalu amdano a gwneud yr hyn sydd orau iddo wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

 

mwy o wybodaeth am maethu cymru sir fynwy:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni