
pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Holwch i weld a allech chi fod yn ddewis da.
mae'r atebion ar gael ymacydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n credu mewn gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i’r holl blant yn ein hardal leol.
Ni yw Maethu Cymru Monmouthshire, rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, gan ei alluogi i gyrraedd ei lawn botensial. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i blant a phobl ifanc drwy ddarparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen ar ein hamrywiaeth eang o ofalwyr maeth i ddiwallu eu hanghenion.
Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Holwch i weld a allech chi fod yn ddewis da.
mae'r atebion ar gael ymaYdych chi'n ystyried sut mae'r broses faethu'n gweithio? Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.
mae'r atebion ar gaelDysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu, a beth i'w ddisgwyl nesaf.
dysgwych mwyPryd bynnag neu sut bynnag y mae ein hangen ni arnoch chi, rydyn ni yma i helpu. Mae cymorth ar gael bob amswer.
dysgwych mwyMae cyfoethogi bywyd plentyn yn gallu gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi hefyd.
Wrth faethu yn Sir Fynwy, byddwch yn cael cefnogaeth ragorol y dydd; arweiniad wedi’i deilwra gan weithwyr cymdeithasol a seîcolegwyr hynod brofiadol, cyfeillgar a gwybodus; ffioedd cystadleuol; cyfleoedd hyfforddi a llawer iawn mwy.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
“Ydyn, maen nhw (plant) yn gallu dod â llawer o heriau, ac efallai y bydd rhai adegau pan fyddwch chi’n meddwl, ‘Dydw i ddim yn gwybod beth rydw i’n mynd i’w wneud nawr’, ond rydych chi’n ei weithio allan! Nid oes angen i chi wybod popeth, oherwydd mae’r hyfforddiant a gewch yn wych.”