
pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Holwch i weld a allech chi fod yn ddewis da.
mae'r atebion ar gael ymacydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n credu mewn gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i’r holl blant yn ein hardal leol.
Ni yw Maethu Cymru Monmouthshire, rhan o nid-er-elw rwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, gan ei alluogi i gyrraedd ei lawn botensial. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i blant a phobl ifanc drwy ddarparu’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen ar ein hamrywiaeth eang o ofalwyr maeth i ddiwallu eu hanghenion.
Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Holwch i weld a allech chi fod yn ddewis da.
mae'r atebion ar gael ymaMae hyn yn gallu bod yn unrhyw beth o aros dros nos neu seibiant byr, i leoliadau mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol.
beth sy'n iawn i chi?Mae cyfoethogi bywyd plentyn yn gallu gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi hefyd.
Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cymorth bwrpasol a lwfansau ariannol i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin hapusrwydd y plant rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu, a beth i'w ddisgwyl nesaf.
dysgwych mwyOnd beth yn union yw maethu, a sut mae’n gweithio? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn i ni drwy’r amser.
dod o hyd i'r atebion“Ydyn, maen nhw (plant) yn gallu dod â llawer o heriau, ac efallai y bydd rhai adegau pan fyddwch chi’n meddwl, ‘Dydw i ddim yn gwybod beth rydw i’n mynd i’w wneud nawr’, ond rydych chi’n ei weithio allan! Nid oes angen i chi wybod popeth, oherwydd mae’r hyfforddiant a gewch yn wych.”