sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Felly, rydych chi’n ystyried bod yn rhiant maeth? Wel, cyn i chi gymryd y cam cyntaf hollbwysig hwnnw, mae’n bwysig gwybod beth i’w ddisgwyl.
y cam cyntaf
Mae’r cam cyntaf yn syml. Mae angen i chi gysylltu â ni a rhannu eich diddordeb. Efallai y bydd yn teimlo fel cam bach, ond mae’n un o’r rhai pwysicaf.
yr ymweliad cartref
Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi ac yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd.
I ddechrau, bydd rhywfaint o waith papur i’w wneud, yna byddwn ni’n trefnu i gwrdd â chi’n bersonol neu drwy sgwrs fideo.
Mae’r cam cyntaf hwn yn eithaf anffurfiol ac mae’n gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd, ac i ni ddysgu lle rydych chi’n ei alw’n gartref.
yr hyfforddiant
Rydyn ni’n dechrau eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn ofalwr maeth gyda chwrs hyfforddi cychwynnol. Mae hwn yn cael ei alw’n “Paratoi i Faethu”, neu weithiau’n “Sgiliau Maethu”. Fel arfer, mae’n digwydd dros ychydig ddyddiau, ac mae wedi’i gynllunio i’ch cyflwyno chi i’ch rôl newydd.
Yn ystod yr hyfforddiant hwn, byddwch chi hefyd yn cael cyfle i gwrdd â gofalwyr maeth eraill, a dechrau meithrin perthynas â nhw a thîm Maethu Cymru Sir Fynwy.
yr asesiad
Yn dilyn hyn daw cam asesu. Dim prawf yw hwn, ond cyfle i ni archwilio sut mae eich teulu’n gweithio, i chi ofyn cwestiynau, ac i ddeall cryfderau a gwendidau eich uned deuluol.
Byddwch chi’n cwrdd ag un o’n gweithwyr cymdeithasol medrus a chyfeillgar a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y manteision a’r heriau a ddaw.
y panel
Ar ôl yr asesiad, bydd panel o weithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau annibynnol yn ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd ac yn gwneud rhai argymhellion.
Fydd y panel ddim yn dweud ie neu na, yn hytrach bydd yr aelodau’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn ac yn awgrymu sut i symud ymlaen. Er enghraifft, y math o leoliad a allai fod fwyaf addas.
y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i’r panel maethu gymeradwyo eich asesiad, bydd cytundeb gofal maeth yn cael ei lunio. Bydd hwn yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu, gan amlinellu’r cyfrifoldebau, y manteision a’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r arweiniad sydd ar gael.