pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru yn rhan o’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sy’n rhoi pecyn cyson o gefnogaeth, hyfforddiant a manteision i bob gofalwr maeth yng Nghymru.
Fel rhan o dîm Maethu Cymru Sir Fynwy, cewch eich cefnogi gyda phopeth rydych ei angen i ffynnu fel gofalwr maeth.
cefnogaeth ariannol a lwfansau
Fel gofalwr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy, byddwch yn derbyn lwfans hael i’ch cefnogi i ofalu am y plentyn a leolir gyda chi.
Mae ein lwfansau a gwobrau yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau tebyg i faint o blant yr ydych yn eu maethu, eu hoedran a’r math o faethu a gynigiwch.
Yn ogystal â’ch lwfans maethu, mae ein holl ofalwyr yn derbyn taliad ‘sgiliau’ yn adlewyrchu eu hyfforddiant a phrofiad wrth ofalu am blentyn.
Er enghraifft, byddai gofalwyr maeth sy’n gofalu am ddau blentyn 3 a 5 oed yn derbyn o leiaf £585.00 yr wythnos (£30,420 y flwyddyn).
Byddai gofalwr maeth yn gofalu am berson ifanc 16 oed gyda sgiliau lefel 3 yn derbyn o leiaf £324.00 yr wythnos (£16848.00 y flwyddyn).
Byddai gofalwr MyST yn gofalu am berson ifanc 16 oed yn cael o leiaf £702.57 yr wythnos (£36,533.64 y flwyddyn).
buddion eraill
Ar ben eich lwfansau maethu, byddwch hefyd yn derbyn:
- Cerdyn ‘MAX’, prif gerdyn disgownt Prydain ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sy’n rhoi mynediad am ddim neu ratach i fannau tebyg i ‘Lasertag’, amgueddfeydd a chestyll.
- Mae cerdyn Blue Light yn rhoi ystod anhygoel o ostyngiadau ar siopau groser, siopau o bob math a safleoedd bwyd.
- Telir ciniawau ysgol ar gyfer holl blant Sir Fynwy sy’n derbyn gofal sydd mewn ysgol lawn-amser. Caiff taliad ychwanegol ei wneud yn ystod gwyliau ysgol, gan roi £260 y flwyddyn yn ychwanegol.
- Mae ein holl ofalwyr maeth yn derbyn aelodaeth awtomatig o’r Rhwydwaith Maethu, gwasanaeth cyngor a chymorth annibynnol i ofalwyr maeth.
- Cynigir digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd eraill yn rhad ac am ddim neu yn rhatach ar gyfer eich holl deulu maeth. Bydd ein cylchlythyr misol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth ydynt a sut i gael mynediad iddynt.
- Cymhellion ariannol i ofalwyr amaeth sy’n argymell unigolyn sydd wedyn yn cael ei asesu fel gofalwr maeth ar gyfer Sir Fynwy.
ein cefnogaeth i chi
Rydym yn ymroddedig i roi’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i’n gofalwyr maeth i’w galluogi i fod y gofalwyr maeth gorau y gallant fod. Mae’r cymorth sydd ar gael i chi fel gofalwr maeth ar gyfer Maethu Cymru Sir Fynwy yn cynnwys:
- Eich gweithiwr cymdeithasol penodol chi eich hun fydd yn eich cefnogi ac yn gweithio gyda chi.
- Grwpiau cymorth gofal maeth rheolaidd i’ch galluogi i gwrdd a chadw mewn cysylltiad gyda gofalwyr maeth eraill a rhoi gwybodaeth/newyddion perthnasol i’ch ròl maethu.
- Mae Gofalwyr Maeth dros Ofalwyr Maeth (FC4FC) yn grŵp annibynnol a sefydlwyd gan ac ar gyfer gofalwyr maeth Maethu Cymru Sir Fynwy. Mae hyn yn rhoi system cefnogaeth annibynnol i ofalwyr maeth. Mae FC4FC yn trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau, partïon Nadolig a digwyddiadau eraill yn rheolaidd.
- Mentora unigol gan ofalwyr maeth profiadol yn gysylltiedig gyda’r rhaglen Pioneer.
- Mynediad i gymorth cymheiriaid Men who Care ar gyfer dynion sy’n ofalwyr maeth.
Eich cefnogi chi i gefnogi plant
BASE (‘Building Attachments Security and Emotional Well-being’)
- Mae gan holl ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau fynediad i BASE, ein gwasanaeth therapiwtig a seicoleg mewnol.
Mae tîm BASE yn cynnwys seicolegwyr clinigol a therapyddion chwarae sy’n gweithio gyda gofalwyr maeth, plant a phobl ifanc i gefnogi gofalwyr a gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal.
Mae BASE yn cynnig gwaith therapiwtig uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc a chefnogaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â hyfforddiant a gweithdai.
MyST (‘My Support Team’)
- Mae MyST yn rhoi cefnogaeth ddwys i ofalwyr maeth sy’n gofalu am blant a phobl ifanc gyda’r anghenion mwyaf heriol a chymhleth.
Fel arall byddai’r plant hyn mewn cartrefi preswyl i blant yn aml ymhell o’u cymunedau a phobl sy’n bwysig iddynt.
Fel gofalwr MyST mae gennych fynediad i gefnogaeth 24 awr y dydd/7 diwrnod yr wythnos, taliadau uwch, hyfforddiant pwrpasol a phecynnau unigol o gefnogaeth yn ôl eich anghenion.
ein haddewid
rhan o’r tîm
Fel gofalwr maeth cymeradwy o fewn Cyngor Sir Fynwy byddwch yn dod yn rhan o dîm sy’n rhannu cenhadaeth i ddarparu amgylchedd cefnogol lle gall y plentyn yn eich gofal ffynnu. Fel gofalwr maeth y plentyn, rydych wrth graidd y genhadaeth hon.
Fel rhan o’n tîm, byddwch wrth ochr pobl ymroddedig eraill; gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, gofalwyr maeth, seicolegwyr a therapyddion.
Rydym i gyd yn ymroddedig i gadw plant Sir Fynwy yn eu hardal leol gyda gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanynt , lle byddant yn ffynnu.
dysgu a datblygiad
Dim ond dechrau eich datblygiad yw dod yn ofalwr maeth cymeradwy. Cynigion ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a dysgu i gefnogi eich dysgu a’ch dealltwriaeth o’r plant y gofalwch amdanynt, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i alluogi’r plant sydd yn eich gofal i ffynnu.
Fel gofalwr Maethu Cymru Sir Fynwy, bydd gennych eich Cynllun Dysgu a Datblygu Maethu Cymru eich hun sy’n unigol i’ch anghenion ac yn rhoi ystyriaeth i’r holl brofiadau a dysgu sydd gennych.
Bydd gennych hefyd fynediad i ddewis amrywiol o gyfleoedd hyfforddiant, e-ddysgu, podlediadau a gweithdy.
y gymuned faethu
Rydyn ni hefyd yn cynnig nifer o rwydweithiau cymorth cymdeithasol yn Sir Fynwy. Gallwch chi gyfarfod gofalwyr maeth eraill a rhannu eich profiadau unigryw a dechrau cyfeillgarwch newydd a phwerus gyda phobl yn y gymuned leol.
Ar ben hyn, mae cyfoeth o gyngor a gwybodaeth ar-lein y gallwch chi gael gafael arnyn nhw ar unrhyw adeg fel gofalwr maeth Cymru.
Mae Maethu Cymru yn talu i chi fod yn aelod o’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) a’r Rhwydwaith Maethu (TFN). Mae’r rhain yn sefydliadau maethu arbenigol sy’n cynnig cyngor, arweiniad, cefnogaeth a llawer o fanteision eraill.