trosglwyddo i ni
dewiswch faethu cymru sir fynwy
Mae Maethu Cymru’n sefydliad nid-er-elw. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol
Rydyn ni’n rhan o dîm ehangach Maethu Cymru – y tîm cenedlaethol a asiantaethau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru.
Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom ni.
dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod

manteision maethu gydag awdurdod lleol
Rydyn ni bob amser yn rhoi pobl o flaen elw, ac rydyn ni’n blaenoriaethu cadw plant yn y cymunedau lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru. Rydyn ni wedi ein lleoli yn y gymuned, felly mae gennyn ni ddealltwriaeth fanwl o’r heriau a allai godi, a’r gwasanaethau cymorth lleol sydd wrth law.
Mae Maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yn hyblyg. Gallwch ddewis y mathau o faethu yr ydych yn ei wneud a’r math o blant mae’n well gyda chi edrych ar eu hôl, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau.
Trwy ymuno â Maethu Cymru Sir Fynwy, rydych chi’n dod yn rhan o dîm. Rydym ni’n gyfrifol am bob plentyn a pherson ifanc sydd angen gofal maeth, felly anghenion ein plant yw ein prif flaenoriaethau. Rydym yn gofalu amdanyn nhw, nid am elw.

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru sir fynwy
- Cerdyn Max, sy’n cynnig mynediad am ddim ac am bris gostyngol i amrywiaeth o atyniadau yn y DU.
- Mynediad at ein gwasanaeth therapiwtig mewnol, Base.
- Bod yn rhan o FC4FC – grŵp cefnogi sy’n cael ei redeg gan ein gofalwyr maeth, ar gyfer ein gofalwyr maeth.
- Cyfleoedd datblygu amrywiol gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai.
- Arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth (Mhyst).
Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.

"Gydag IFA cefais bron ormod o ymweliadau yn wythnosol; roedd e jyst yn ddi-dor. Gyda Maethu Cymru, mae’r gefnogaeth yn wych, ond dydw i ddim yn teimlo fy mod yn cael fy mhoeni drwy’r amser. Mae hefyd yn creu amgylchedd gwell i’r plant, fel teulu arferol, ac mae’n fwy personol."
-Kay, gofalwr maeth awdurdod lleol
Darllenwch y stori gyfan yma.
sut i drosglwyddo atom ni
Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.
Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.
Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.
I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.

cael eich canllaw trosglwyddo
Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Sir Fynwy.
-
lawrlwytho'r llyfryn 'Trosglwyddo i Ni' lawrlwytho
gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru sir fynwy
Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA Call 01291 635682Email familyplacement@monmouthshire.gov.uk