ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae pawb yn haeddu rhywle i’w alw’n gartref. Lle i deimlo’n ddiogel, i gael eu caru ac i gael cyfle i dyfu. 

Mae maethu’n cynnig gofal teuluol i blant a phobl ifanc sydd ddim yn gallu byw gyda’u rhieni neu aelodau eraill o’r teulu. 

Mae hyn yn gallu bod yn unrhyw beth o aros dros nos neu seibiant byr, i leoliadau mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol.

gofal maeth tymor byr

Mae gofal maeth tymor byr yn gallu golygu darparu gofal dros dro i blant yn Sir Fynwy am ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd wrth i’r cynlluniau ar gyfer eu dyfodol gael au cadarnhau.

Er gwaethaf y cyfnod byr hwn, gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn. Mae gofalwyr maeth tymor byr yn Sir Fynwy nid yn unig yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol am gyfnod, ond maen nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda’n tîm i ddiffinio’r daith tuag at y tymor hir i’r plentyn: at ei deulu, at deulu maeth arall neu i gael ei fabwysiadu.

gofal maeth tymor hir

Mae gofal maeth tymor hir yn gallu golygu bod plentyn neu berson ifanc yn aros gyda gofalwr maeth nes y bydd yn oedolyn, yn gadael gofal a thu hwnt. Felly, yn hytrach na lleoliad tymor hir, rydyn ni’n hoffi meddwl am y daith fel ymuno â chartref newydd.

Mae gofal tymor hir yn cael ei gynnig i blant sydd ddim yn gallu byw gartref gyda theulu ac mae’n cynnig dewis sefydlog a diogel gyda sefydlogrwydd. Mae’n golygu bod gan y plentyn deulu maeth sefydlog am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, y mae angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Gallai’r rhain gynnwys…

selbiant byr

Rydyn ni i gyd yn haeddu seibiant weithiau. Mae seibiant byr neu seibiant yn gyfle i blant gael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu.

Mae seibiant byr (sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’ neu’n ‘seibiant’) yn gallu golygu cymryd plentyn i mewn am noson, am benwythnos neu am wythnos neu ddwy, yn aml yn rheolaidd.

Mae darparwyr seibiant byr yn estyniad i deulu’r plentyn, yn cynnig seibiant o fywyd bob dydd ac yn darparu cefnogaeth pan fydd ei hangen fwyaf.

rhiant a phlentyn

Weithiau, mae angen help ar y rhiant a’r plentyn. Mae lleoliadau i rieni a phlant yn ei gwneud yn bosibl rhannu cefnogaeth a helpu rhieni sydd mewn angen i ddysgu gan rywun sydd â phrofiad. Mae hyn yn aml yn golygu helpu rhieni i ddysgu sut i ofalu am eu plentyn yn ddiogel mewn amgylchedd cefnogol a diogel.

Mae’n rôl ddeuol: nid dim ond meithrin y genhedlaeth nesaf sy’n bwysig, ond eu helpu i deimlo eu bod nhw’n gallu gwneud yr un peth.

Darllenwch fwy: maethu rhiant a phlentyn yn sir fynwy

gofal therapiwtig – Fy Nhîm Cymorth (MyST)

Weithiau, mae angen gwahanol fathau o ofal ar blant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol ychwanegol. Dyma rôl lleoliadau therapiwtig. Mae cefnogaeth ehangach ar gael i ofalwyr therapiwtig a’u plant, i helpu gyda’r holl agweddau unigryw ar ofal y plentyn.

Yn Sir Fynwy, mae hyn yn cael ei gefnogi gan bartneriaeth aml-asiantaeth, MyST (Fy Nhîm Cymorth). Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth. Gael gwybod mwy: https://www.mysupportteam.org.uk/cy/maethu-therapiwtig/

maethu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa

Mae llawer o ffoaduriaid ifanc yn gorfod gadael eu teulu cariadus ar eu hôl i ddianc rhag rhyfel, trais a gormes gyda’r gobaith o gael bywyd gwell. Gyda chymorth eich awdurdod lleol, gallwch arwain ffoadur ifanc i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd Cymru yn chwilio am ddiogelwch, dealltwriaeth, cefnogaeth, llety ac arweiniad. Mae llawer o ofalwyr maeth awdurdodau lleol eisoes yn darparu cymorth hanfodol, ond mae angen mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng parhaus.

plant ag anableddau

Gall gofalu am blentyn ag anabledd fod yn feichus iawn ar rieni. Gall maethu seibiannau byr roi rhywfaint o amser iddynt eu hunain neu amser i’w dreulio gyda’u plant eraill ac aelodau o’r teulu.

Daw seibiannau byr mewn llawer o wahanol ffurfiau a gallant bara unrhyw beth o ychydig oriau i ddiwrnodau. Mae gofalwyr maeth seibiant i blant ag anableddau yn cael lwfans ariannol a chymorth parhaus, felly dydych chi byth ar eich pen eich hun.

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Byddech yn cynnig ystafell wely sbâr iddo ond hefyd yn ei helpu i fynychu addysg a chwilio am swydd neu hyfforddiant a chyda sgiliau bywyd fel coginio a chyllidebu. Mae llety â chymorth yn ffordd wych o ddechrau gofalu am bobl ifanc, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltu â ni