trosglwyddo i ni
eisoes yn maethu?
Mae Maethu Cymru’n sefydliad nid-er-elw. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol – dim gwneud elw.
Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru. Rydych chi’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, pob un yn cydweithio tuag at yr un nod.
Os nad ydych yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch chi drosglwyddo aton ni. Mae’n hawdd! Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod

sut i drosglwyddo
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni yma yn Maethu Cymru Sir Fynwy a rhannu eich dymuniad i drosglwyddo i’n rhaglen.
Yna byddwn ni’n gweithio gyda chi i weld a ydyn ni’n cyfateb yn dda ac, os byddwch chi’n penderfynu gwneud hynny, byddwn ni’n eich cefnogi i drosglwyddo.

pam trosglwyddo
Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Felly, i lawer, mae’n gwneud synnwyr gweithio gyda system yr Awdurdod Lleol, sef Maethu Cymru.
Rydyn ni’n angerddol dros helpu plant lleol i fyw bywydau hapus, diogel a sefydlog, a dyna bwrpas ein cenhadaeth. Rydyn ni wedi ein lleoli yn y gymuned, felly mae gennyn ni ddealltwriaeth fanwl o’r heriau a allai godi, a’r gwasanaethau cymorth lleol sydd wrth law.
Rydyn ni’n gweithredu fel tîm, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i’ch. helpu chi i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc.
Hoffech chi ymuno â ni? Dewch i gael rhagor o wybodaeth am y manteision a’r gefnogaeth rydyn ni’n eu cynnig.