Wrth feddwl am faethu, gall llawer o bobl ofyn ‘A allaf weithio a bod yn ofalwr maeth?’ Yr ateb yw, ydi, mae’n bosibl gweithio a bod yn ofalwr maeth. Mae heriau yn dod gyda hynny, yn yr un modd â maethu, ond nid yw’n amhosibl.
Gallech fod â gyrfa yr ydych yn ei mwynhau neu fod yn berchen busnes, a dal i fod eisiau dod yn ofalwr maeth i wella bywydau plant yn eich ardal leol. Nid oes rheolau caeth ar weithio a maethu heblaw fod yn rhaid i fudd gorau y plant fod yn greiddiol i bopeth a wnewch.
Yn Maethu Cymru, gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol, rydym yn eich cefnogi bob cam ar eich taith i ddod yn ofalwr maeth. Bydd yr erthygl hon yn ateb cwestiynau fel:
- A fedraf weithio a dod yn ofalwr maeth?
- Pa fathau o faethu sydd fwyaf addas os wyf yn gweithio?
- Beth yw heriau maethu?
- A yw fy ngwaith yn ddigon hyblyg?
- Pam gweithio a bod yn ofalwr maeth?
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Felly, os mai’ch pryder yw os y gallwch weithio tra’n maethu, fe wnaethom baratoi’r canllaw hwn i’ch helpu i benderfynu.
Y mathau o faethu sydd fwyaf addas os ydych yn gweithio
Mae rhai o’n gofalwyr maeth yn dewis maethu tymor byr (seibiant) neu faethu argyfwng dros benwythnosau sy’n eu galluogi i barhau â’u cyflogaeth lawn-amser. Mae eraill yn gweithio’n rhan-amser gyda digon o hyblygrwydd i dderbyn bron unrhyw fath o leoliad.
Gallech hefyd weithio a bod yn ofalwr maeth os yw eich swydd yn seiliedig yn eich cartref, neu os ydych yn weithiwr llawrydd, contractwr neu berchennog busnes sy’n penderfynu ar eich oriau gwaith eich hun. Bydd gan bob gwasanaeth gofal plant ei bolisi ei hun ar ofalwyr maeth sydd mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser, felly mae’n dda siarad gydag aelod o’n tîm cyfeillgar a all ateb eich holl gwestiynau ac ystyried eich amgylchiadau neilltuol.
Cofiwch bob amser fod plant sy’n derbyn gofal angen sefydlogrwydd, sylw a chariad. Maent yn aml angen trefn sylfaenol a chynllun dyddiol a all eu helpu i deimlo sicrwydd. Mae’r gallu i roi ymdeimlad o berthyn a diogelwch yn hanfodol i’w llesiant.
Her maethu
Cyn i chi benderfynu os gallwch gyfuno gweithio gyda maethu, mae angen i chi fod yn ymwybodol o rai o’r heriau sy’n gysylltiedig â bod yn ofalwr maeth.
Nid oes yr un dau blentyn yr un fath
Byddwch yn cael gwahanol leoliadau fel gofalwr maeth. Mae pob plentyn yn dod â rhywbeth gwahanol ac unigryw i’ch bywyd, sy’n golygu fod angen i chi fod yn barod i wynebu heriau.
Mae plant sy’n derbyn gofal yn aml wedi profi trawma a cham-driniaeth. Gallant fod angen mwy o amser a chefnogaeth na, er enghraifft, plant nad ydynt erioed wedi profi hynny. Gall eu hymddygiad oherwydd eu profiadau a cholled gynnwys ofn, oedi wrth ddatblygu, dicter, problemau ymlyniad tebyg i fod yn bryderus, glynu neu osgoi, diffyg hunan-hyder, gwrthod siarad a phroblemau gyda bwyd er enghraifft celcian, cuddio a dwyn. Efallai nad oes ganddynt unrhyw drefn arferol ac nad ydynt yn deall ffiniau. Mewn achosion mwy eithafol gallai gynnwys hunan-anaf neu redeg bant. I’w helpu i oresgyn anawsterau a chyrraedd eu potensial llawn, bydd angen i chi fod yn fedrus, trugarog a pharod i roi eich amser.
Gall fod yn anodd weithiau, ond yn Maethu Cymru mae gan bob un o’n gofalwyr maeth rwydwaith cymorth lleol cyflawn, fel na fyddwch byth yn teimlo ar ben eich hun. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd, cyngor, dysgu a datblygu ymroddedig a’ch gweithiwr cymdeithasol ymroddedig i’ch helpu ar eich taith maethu.
“Mae’n wirioneddol bwysig fod pobl yn deall pa mor anodd yw bywydau rhai plant a faint o gymorth y gallant fod ei angen. Gall y plant ddod â llawer o heriau, ond gall fod rhai adegau pan fyddwch chi’n meddwl ‘Wn i ddim beth i’w wneud’, ond rydych yn dod i ben! Nid oes angen i chi wybod popeth oherwydd fod yr hyfforddiant a gewch yn rhagorol. Cewch ymdeimlad cryf o gymuned gan ofalwyr maeth eraill.”
Claire, gofalwr maeth yn Sir Fynwy.
Ymroddiad a rheoli amser
Fel gofalwr maeth, bydd hefyd angen i chi fod yn wydn ac yn dda am reoli eich amser. Ynghyd â chyfarfodydd ac apwyntiadau rheolaidd gyda gweithwyr cymdeithasol, gall gofalwyr maeth hwyluso cysylltiad gyda’r teulu geni, lle’n briodol. Nod pob lleoliad yw dychwelyd plant yn ddiogel at eu rhieni geni os yw hynny’n bosibl ac yn fuddiol i’r plant. Weithiau gall y rhieni geni fod â drwgdeimlad tuag atoch neu wrthod cydweithredu a bod mor barod i gynorthwyo ag y gallent. Bydd angen i chi ddangos digon o wytnwch ac ymroddiad i wneud i bethau weithio i’ch plentyn maeth.
Gall delio gyda’r cyfan uchod yn sicr fod yn her. Gall fod yn anodd, ond mae hefyd yn eich cadw yn tyfu ac yn dysgu bron drwy’r amser. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn tyfu fel person, ac yn darganfod llawer amdanoch eich hun.
Fe wnaethom siarad gydag un o’n gofalwyr maeth lleol sy’n gweithio. Dyma sut y disgrifiodd ei phrofiad:
“Mae gen i swydd lawn-amser ac rwyf wedi maethu ers dros ddwy flynedd bellach. Mae yn bosibl, mae’n anodd, ond mae yn bosibl. Y mis cyntaf yn bendant yw’r caletaf, ond mae’n dod yn well. Fy lleoliad cyntaf oedd y caletaf. Unwaith y byddwch wedi cael y mis cyntaf yn y lleoliad cyntaf drosodd, mae popeth yn llawer mwy llyfn. Gydag amser fe wnes feithrin perthynas gyda fy ngweithwyr cymdeithasol, staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill. Fe wnaeth siarad gyda fy nghyflogwr hefyd fy helpu i deimlo fod gen i fwy o gefnogaeth. Rydw i hefyd yn meddwl fod cael rhwydwaith cymorth fel perthnasau neu ffrindiau, a all gynnig ychydig o help, yn werthfawr tu hwnt. Mae’r teimlad gwych o wneud rhywbeth gwerth chweil yn werth yr holl ymdrech.”
A yw eich gwaith yn ddigon hyblyg?
Rydych angen hyblygrwydd er mwyn rheoli eich amser yn llwyddiannus. Ar wahân i ofalu am blentyn, mae maethu hefyd yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd gyda gweithwyr cymdeithasol, apwyntiadau meddygol, cyfarfodydd ysgol, hyfforddiant ac yn y blaen. Bydd angen i chi fedru mynd â’ch plentyn/plant i’r ysgol yn y bore a mynd i’w nôl ar ddiwedd y diwrnod ysgol (yn dibynnu ar oedran y plentyn). Mae hyblygrwydd mewn gwaith hefyd yn hanfodol os yw’r plentyn yn dost neu ar gyfer gwyliau ysgol,.
P’un ai ydych yn sengl neu’n gwpl, byddai angen i chi ddangos eich bod ar gael nid dim ond ar gyfer argyfwng ond hefyd ar gyfer cyfarfodydd ac ymrwymiadau. Gallwn wedyn eich paru gyda phlentyn sy’n cyd-fynd orau gyda’ch sgiliau a’ch amgylchiadau, gan wneud yn siŵr bob amser mai chi yw’r person cywir ar gyfer y plentyn hefyd.
Argymhellwn eich bod yn siarad gyda’ch cyflogwr a all eich cefnogi ar eich taith faethu. Mae’n werth canfod os oes lle am fwy o hyblygrwydd. Gallai eich cyflogwr fod yn Gyflogwr Cyfeillgar i Faethu. Edrychwch ar y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth.
Pam gweithio a bod yn ofalwr maeth?
Dywedodd gofalwr maeth lleol o Sir Fynwy wrthym pam ei bod wedi penderfynu cadw ei swydd pan oedd yn maethu:
“Rwyf yn gweithio’n llawn-amser, yn y diwydiant technoleg, ac rwy’n fam faeth sengl. Mae’n rhoi peth hyblygrwydd i mi, a gallaf hefyd weithio gartref. Felly rwy’n gwybod y gellir ei wneud. Rwy’n teimlo fod fy swydd yn rhan o fy mhroses iechyd meddwl. Pe allwn wneud yr un arian ond aros gartref, fyddwn i ddim yn gwneud hynny. Rydw i angen yr amser hwn.”
Mae rhai o fanteision gweithio a maethu a awgrymodd ein gofalwyr maeth lleol yn cynnwys:
- Derbyn cyflog tu allan i’ch lwfans maethu fel nad ydych yn dibynnu ar faethu fel yr unig ffynhonnell o “incwm”
- Dal ati i ddysgu ar sawl lefel fel y gallwch barhau eich gyrfa a datblygu proffesiwn sy’n eich bodloni a dwfn fel gofalwr maeth
- Efallai y gellir trosglwyddo eich sgiliau a gallant wella’n fawr sut ydych yn delio gyda heriau maethu, yn arbennig os ydych yn gweithio mewn gofal cymdeithasol, addysg neu broffesiwn arall cysylltiedig
- Gall fod o fudd i’ch iechyd meddwl os ydych yn mwynhau eich gyrfa a’i bod yn eich bodloni
Pa gefnogaeth fyddwch chi yn ei derbyn yn Maethu Cymru?
Mae maethu yn ymrwymiad a dyna sy’n dod gyntaf, felly mae angen dull gweithredu tîm. Tu hwnt i’r teulu, byddwn yn eich helpu i ddarparu uned gefnogaeth o gweithwyr cymdeithasol, therapyddion ac athrawon, fel bod cyngor ac arweiniad ar gael bob cam o’r daith.
Os ydych yn byw yn Sir Fynwy gallwn gynnig llawer o gefnogaeth, tebyg i fynediad i’n gwasanaeth therapiwtig mewnol ac aelodaeth o’r grŵp cymorth a gaiff ei redeg gan ein gofalwyr maeth lleol. Mae hefyd lawer o wobrau, tebyg i gerdyn Max, sy’n rhoi mynediad am ddim neu ratach i amrywiaeth o atyniadau ym Mhrydain, talu am aelodaeth i’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) a’r Rhwydwaith Mabwysiadu (TFN) a lwfansau ariannol hael.
A fedrwch weithio a bod yn ofalwr maeth? Os ydych yn dal yn ansicr, beth am gysylltu gyda thîm maethu eich awdurdod lleol heddiw? Byddant yn eich helpu i weithio mas os mai dyma’r amser cywir i chi faethu.
Os ydych yn byw yng Nghymru, edrychwch ar wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Byw yn Sir Fynwy, Cymru? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn.
Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn a gofalgar yn eich cymuned.