Mae Kerrie a’i gŵr wedi bod yn ofalwyr maeth ac yn warcheidwaid arbennig yn Sir Fynwy ers 2018. Ar hyn o bryd, maent yn gofalu am 2 ferch fach ac maent hefyd yn magu eu dau blentyn biolegol sydd yn eu harddegau.
“Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth mwy personol.”
Dywedodd Kerrie ei bod bob amser eisiau cael plant, ond nid oedd eu taith i gael plant biolegol yn un hawdd. Mae’n cofio dweud wrth ei gŵr y byddai’n hoffi maethu pan oedd eu plant genedigol wedi tyfu i fyny ychydig.
Mae ei chefndir ym myd addysg, a bu’n gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu am 11 mlynedd. Mae hi’n cofio:
“Roeddwn i’n gallu gweld y plant hyn i gyd ac roedd gen i dipyn o brofiad o weithio gyda phlant sy’n derbyn gofal drwy’r ysgol. A gallwn weld sut roedd sefyllfaoedd gwahanol yn effeithio arnynt. Ac roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau gwneud gwahaniaeth mwy personol.
Nid wyf am fod yn Gynorthwyydd Addysgu, yn y cefndir. Rwyf am fod y person hwnnw a all fod yno iddynt drwy’r amser.”
Tua’r un amser, roedd brawd Kerrie yn mynd drwy’r broses o fabwysiadu. Mae hi’n cofio’r llawenydd a ddaeth i’w theulu i gyd oherwydd nid oedd gan ei merched gefndryd erioed tan hynny. Mae gŵr Kerrie yn unig blentyn, ac felly ar y pryd, nid oedd unrhyw blant eraill yn y teulu.
“Felly, i ni, roedd hynny’n fath o hwb. Roeddwn i’n gallu gweld y pethau cadarnhaol o’r ochr honno hefyd. Sut y gallai teulu ehangu a’r llawenydd a ddaw yn ei sgil.
Roeddwn wedi bod yn ystyried y peth ers cryn amser, ond nid oeddwn yn ddigon dewr i gymryd y cam olaf hwnnw. Hwn oedd yr amser iawn i ni. Roedd ein merched ychydig yn hŷn hefyd, i’r pwynt lle gallem eistedd i lawr a’i drafod gyda nhw a byddent yn deall.”
I Kerrie, roedd yn teimlo fod yr amser yn briodol pan gyrhaeddodd ei phlant genedigol eu harddegau gan ddod yn fwy annibynnol, teimlo’n ddiogel a deall y rhesymau y tu ôl i faethu.
“Rydym yn dîm.”
Mae dod yn rhiant maeth yn ddewis a wnewch gyda’ch anwyliaid. Mae’n ymwneud â thyfu eich uned deuluol trwy dderbyn plant i’ch cartref. Eu cefnogi a gofalu amdanynt. Mae eich teulu yn cymryd rhan ar bob cam ac yn cynnig cefnogaeth a gofal hefyd. Nid yw’n rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – rydych chi’n rhan o’r peth gyda’ch gilydd. I Kerrie, mae’n bwysig eu bod yn deulu sy’n maethu. Nid hi yn unig sy’n ofalwr maeth.
“Fi yw’r prif ofalwr, ond os yw fy ngweithiwr cymdeithasol yn fy ffonio a’n gofyn i ni gymryd plentyn, rydym yn eistedd i lawr fel teulu ac yn ei drafod, ac os unrhyw un yn anhapus, rydym yn gwybod nad dyna’r penderfyniad cywir i ni. Yn y pendraw, mae’n rhaid iddo fod yn iawn i’r teulu cyfan. Fel arall, nid yw’n mynd i weithio. Mae’n rhaid i chi fuddsoddi fel cwpl neu deulu. Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o’r peth. Oherwydd os nad yw pob un yn buddsoddi, ni allwch gyflawni hyn ar eich pen eich hun.”
“Mae’r holl beth yn broses o ddysgu.”
Mae gan y rhan fwyaf o bobl y sgiliau a’r nodweddion eisoes a fyddai’n eu gwneud yn ofalwyr maeth gwych; nid yw rhai ohonynt yn gwybod, er enghraifft, bod amynedd, empathi, neu’r gallu i drefnu pethau, eisoes yn ddigon. Mae maethu yn broses ac yn broses ddiwedd o ddysgu. Mae’n eich gwobrwyo ac mae’n eich newid. Dywedodd Kerrie,
“Mae pob plentyn yn dysgu rhywbeth newydd i chi hefyd, gan nad oes unrhyw ddau blentyn yr un peth, ac mae pob plentyn yn wahanol.
Rwy’n gwybod y dylwn fod wedi gwneud rhai pethau’n wahanol gyda fy mhlant hefyd. Er enghraifft, mae fy merch 17 oed yn dweud, ‘Wel, pam mae Jenny (plentyn maeth, nid ei henw go iawn) yn cael gwneud hynny heb gael ei cheryddu? Rwy’n siŵr na wnes i pan oeddwn i’n fach.’ Ac rydych chi’n ceisio egluro, wrth i chi fynd yn hŷn, eich bod chi’n ysgafnhau ychydig. Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, mae gennych chi fwy o brofiad bywyd.”
Gall maethu fod yn heriol o bryd i’w gilydd, ond mae’n dangos i chi fod gan bron bob problem ateb, a’ch bod yn tyfu wrth i chi fynd ymlaen. Dywedodd Kerrie hefyd eich bod yn dysgu sut i adeiladu perthnasoedd a chysylltiadau, nid yn unig yn eich cartref ond hefyd gyda phobl sy’n ymwneud â gofalu am y plentyn a’r rhieni biolegol hefyd.
“Rwy’n meddwl bod adeiladu cysylltiadau yn hynod bwysig.”
Mae Kerrie yn warcheidwad arbennig (SGO) i ferch 4 oed sydd wedi bod gyda’i theulu ers pan oedd yn 10 mis oed. Dywedodd nad oedd hi byth eisiau bod yn ofalwr maeth er mwyn cael plentyn arall; roedd hi eisiau helpu plant sydd angen sefydlogrwydd a sicrwydd tra eu bod mewn gofal. Gwnaeth yr amgylchiadau arbennig hyn iddi hi, a’i theulu, ddewis gwneud yr hyn a gredent oedd orau i’r plentyn:
“Roedd Jenny (nid ei henw go iawn) wedi bod gyda ni ers pan oedd yn ddeg mis oed, ac roedd hi’n teimlo’n rhan o’r teulu; roedd hi wedi tyfu fyny yma. Pan ddaeth yr amser, nid oedd yn deg ar y ferch fach yma i’w thynnu hi allan o’r sefyllfa yma ac allan o’n teulu ninnau a’i rhoi gyda phobl nad oedd hi’n eu hadnabod. Roedden ni eisiau beth sydd orau iddi.
Ni roddodd gofal maeth y sicrwydd yr oeddem yn teimlo bod ei angen arni, tra bod gwarcheidiaeth arbennig yn golygu bod gennym ni’r cyfrifoldeb rhianta fel y gallwn wneud yr holl bethau diflas, wyddoch chi, fel ei chofrestru ar gyfer yr ysgol, mynd â hi am frechiadau. Gofalu amdani o ddydd i ddydd.”
Mae Kerrie yn credu, pryd bynnag y bo modd, ei bod yn bwysig bod plentyn yn cynnal perthynas dda â’i rieni biolegol a’i deulu.
“Mae hi’n cael mynd i’r ganolfan chwarae meddal gyda’i thad ac mae ei thad yn mynd â hi i wersi nofio. Mae ei mam yn ei gweld, ac mae hi’n cael treulio amser gyda’r ddau riant, ond yna mae hi’n dod yn ôl atom ni lle mae’n ddiogel, a dyma ei chartref.
Rwy’n gobeithio y bydd diogelwch a sicrwydd ein teulu yn golygu ei bod hi’n hapus yma. Rwy’n gobeithio y bydd hi bob amser yn rhan o’n bywyd.”
Mae Kerrie a’i gŵr hefyd yn ofalwyr maeth i ferch fach 11 wythnos oed. Dywedodd Kerrie fod y gallu i feithrin perthynas dda gyda’i rhieni o’r dyddiau cynnar pan gafodd ei geni yn hynod o bwysig. Adeiladodd gysylltiad â’r fam a oedd yn deall y ffaith na allai’r babi aros gyda hi, ond roedd hi eisiau’r gorau iddi.
“Mae yna reswm ei bod hi’n dod atom ni. Ond rydyn ni’n cydweithio. Rwy’n gwrando ar yr hyn y mae hi’n ei ddweud. Mae hi’n gwrando ar yr hyn yr wyf innau yn ei ddweud. Rwy’n cyd-dynnu’n dda iawn gyda’i mam a’i thad genedigol, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn trefnu diwrnodau allan gyda’n gilydd. Rwyf bob amser yno gyda hi. Mae gennym ni luniau teulu gyda’n gilydd. Rydyn ni’n cynnal partïon pen-blwydd. Rydyn ni’n gwneud popeth mae teulu arferol yn ei wneud. Ond rydyn ni i gyd yn ei wneud gyda’n gilydd.
Ni allwch wneud hynny gyda phawb. Mae yna bobl na allwch chi gyd-dynnu gyda nhw, ond rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn hyd yn hyn ein bod ni wedi gallu ei wneud gyda rhieni’r plant rydyn ni’n eu maethu.”
“Ni allwn ofyn am gefnogaeth well.”
Nid oes unrhyw ddau brofiad o faethu yr un fath. Mae stori pob gofalwr maeth yn wahanol, ac nid oes dau blentyn yr un fath. I lawer o ofalwyr, dyma sy’n gwneud maethu mor ddeniadol ac sy’n ei gadw’n ddiddorol – mae’n amhosib rhagweld yr her a ddaw a’r hyn y byddwch yn dysgu o’r her. Nid oes ots beth yw’r her, mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn darparu cymorth rhagorol pan fyddwch ei angen a chytunodd Kerrie:
“Ni fyddem yn medru gofyn am weithiwr cymdeithasol goruchwyliol gwell. Mae hi’n anhygoel. Mae hi’n gwrando pan rydyn ni’n goruchwylio, mae hi’n dod, cael sgwrs, casglu yr holl wybodaeth y mae hi ei heisiau a mwy yn ôl pob tebyg. Ond rydym yn cael sgwrs, anffurfiol iawn, mae gennym berthynas dda iawn. Rwy’n teimlo pe bai gen i broblem neu broblem, gallwn anfon neges ati, ei ffonio, neu anfon e-bost ati, a byddai’n ateb ar yr un diwrnod. Neu os nad yw hyn yn bosib, bydd hi’n trefnu bod rhywun arall yn ateb. Mae hi’n dda iawn.”
Dywedodd Kerrie po hiraf y byddwch ar eich taith faethu, byddwch yn dod yn fwy hyderus yn eich gallu eich hun.
Mae Maethu Cymru Sir Fynwy hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu i ofalwyr maeth fel y gallant ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am rai materion. Mae Kerrie yn falch bod mwy o hyfforddiant yn cael ei wneud wyneb yn wyneb eto, sy’n rhoi’r cyfle i weld gofalwyr maeth eraill a chael rhywfaint o ryngweithio. Mae hi hefyd yn gwerthfawrogi cyfleoedd hyfforddi ar-lein, sy’n gweddu i’w hamserlen tra mae hi’n gofalu am fabi.
Dywedodd fod maethu wedi dysgu llawer i’w phlant, ond hefyd wedi dysgu iddi am faterion gwahanol.
“Rwy’n naïf iawn pan mae’n dod i gyffuriau ac alcohol. Er enghraifft, rydw i wedi gorfod dysgu’n gyflym am weithgareddau allgyrsiol rhai rhieni.
Rwy’n meddwl bod ein merched wedi dysgu llawer ohono gan wybod nad yw pawb yn dod o deulu lle mae pethau’n sefydlog a’u bod yn cael eu hannog ac rwy’n meddwl eu bod wedi dysgu llawer. Rydyn ni i gyd wedi dysgu ar hyd y ffordd.”
Pwysleisiodd Kerrie pa mor bwysig yw hi i gael teulu cefnogol. Mae ei merch hŷn yn ei helpu i ofalu am fabanod maeth pan fydd yn ymweld â’i chartref yn ystod ei gwyliau prifysgol. Disgrifiodd Kerrie hi fel rhywun sy’n medru ‘swyno babanod’ ac mae’n gwerthfawrogi’r holl help y mae’n ei roi iddi.
“Mae cael teulu cefnogol hefyd yn ddefnyddiol iawn. Mae fy merch hŷn bob amser wedi bod yn anhygoel. Mae hi’n 21 oed nawr ac mae hi’n hyfforddi i fod yn barafeddyg, ac rwy’n dibynnu arni’n fawr pan mae hi yma.”
“Pan rydw i eisiau gwneud gwahaniaeth, rydw i wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.”
Mae Kerrie yn cofio cael ei holi weithiau sut y gall hi ymdopi â gadael i blant maeth adael y cartref. Dywed rhai pobl wrthi yr hoffent faethu, ond ni fyddent yn gallu rhoi’r plant yn ôl. Mae Kerrie fel arfer yn ateb:
“Dydyn nhw ddim byth yn eiddo i chi i’w cadw. Eich eiddo chi yw eu caru a gofalu amdanynt a’u meithrin. Ond ar ryw adeg, mae’n rhaid i chi eu hanfon ar eu ffordd i’w taith ddechrau i rywle arall. Mae fel cenhadaeth.”
Mae hi’n ei gymharu â dysgu yn yr ysgol lle mae gan yr athrawes ei dosbarth ac yn rhoi popeth iddynt. Yna pan ddaw mis Gorffennaf, mae plant yn cerdded allan ac maent bron i flwyddyn yn hŷn ac maent yn gryfach ac yn fwy disglair ac yn fwy gwybodus. Yna maent yn dychwelyd ym mis Medi ac maent yno gyda rhywun arall. A’u tro nhw wedyn yw mynd â nhw ymlaen ar y daith honno. Efallai byddant yn dweud ‘helo’ wrthoch chi yn y coridor, ac efallai yn eich cydnabod chi.
“Rwy’n gweld plant o gwmpas y lle nawr yr wyf wedi’u dysgu dros y blynyddoedd. Weithiau dwi’n clywed, ‘Helo, Mrs G. Ti’n gwybod mai ti oedd ein ffefryn ni erioed?’ Ac rwyt ti’n meddwl i ti dy hun – do, fe wnes i wahaniaeth.
Mae’n rhaid i chi fod yn ddiwyro. Mae’n rhaid i chi fod yn gryf. Ydy, mae’n brifo pan fyddant yn gadael, ond rydw i bob amser yn ceisio meddwl fy mod wedi gwneud rhywbeth da iddynt ac fe wnes i eu paratoi ar gyfer yr hyn sy’n dod nesaf.”
“Mae’r gwobrau’n aruthrol.”
Os ydych yn ystyried maethu, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol Maethu Cymru Sir Fynwy. Dyna’r cam cyntaf a’r cam hawsaf y gallwch ei gymryd.
Bydd y tîm yn gallu siarad â chi am faethu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Nid oes unrhyw rwymedigaethau yn rhan o’r broses o wneud cais, ond byddwch yn gwybod a yw maethu yn cyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch amgylchiadau.
Dywedodd Kerrie,
“Gallwch chi wneud hyn – siaradwch â phobl sydd wedi mynd drwy’r broses, darganfyddwch beth yn union sydd ei angen. Oherwydd ei bod yn broses sydd yn ymchwilio rhannau o’ch bywyd, mae’n waith caled. Mae’n rhaid i chi ddangos rhywfaint o wydnwch wrth fynd drwyddo oherwydd mae cwestiynau anodd y mae’n rhaid i chi eu hateb. Mae’n ffordd o ddysgu amdanoch chi’ch hun, ond os ydych chi wir eisiau ei wneud, fe welwch ffordd, ac mae’r gwobrau’n aruthrol pan fyddwch chi’n cyrraedd yno. Ond os ydych chi eisiau maethu, mae angen i chi fod yn anhunanol. Mae angen llawer o amynedd.”
“Dwi’n meddwl amdanynt drwy’r amser.”
Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw Maethu Eiliadau. Gofynnais i Kerrie a allai gofio unrhyw foment benodol o’i thaith faethu a oedd yn aros gyda hi. Dywedodd hi stori wrthyf sy’n crynhoi cymaint am faethu.
“Aeth un o’n plant maeth, bachgen bach, i gael ei fabwysiadu. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd a gobeithio y bydd pob achos o’r fath mor bositif. Roedd yn brofiad hudolus a mor gadarnhaol… Dod i adnabod ei fam fabwysiadol newydd a threulio llawer o amser gyda hi. A phan fyddwch chi’n dechrau gweld y cwlwm hwnnw’n datblygu ac rydych chi’n dechrau gweld y plentyn yn mynd at y person hwnnw yn hytrach na chi, rydych chi’n gwybod eich bod wedi gwneud yn dda … roeddwn wedi trosglwyddo’r ymlyniad hwnnw’n llwyddiannus, a dyna ei fam am byth nawr.
Rwy’n lwcus yn gofalu am fabis achos dwi’n cael gweld yr holl gerrig milltir arbennig – y wên gyntaf, y troi drosodd, y cropian. Mae yna gymaint o eiliadau. Neu pan fydda i’n mynd â Jenny i’r clwb cyn-ysgol a’i chasglu, mae hi’n rhedeg atoch gan wenu… y darnau hyfryd.”
Pan ofynnwyd iddi beth mae hi’n fydd yn digwydd yn y dyfodol, dywedodd Kerrie:
“Tra eu bod yn byw o dan eich to chi, maent yn aelod o’ch teulu, a byddech yn mynd i ben arall y byd ar gyfer eich teulu. Nid wyf yn stopio gofalu amdanynt pan fyddant yn gadael. Dwi’n meddwl amdanynt drwy’r amser.
Byddaf yn parhau i faethu cyhyd ag y gallaf. Nes fy mod i eisiau ymddeol a mynd i dreulio peth amser yn y Maldives (chwerthin) a darllen llyfr o’r dechrau i’r diwedd!”.
A ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth fel Kerrie a’i gŵr?
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth a chysylltu â gwasanaeth eich awdurdod lleol.
Byw yn Sir Fynwy, Cymru? Anfonwch neges neu ffoniwch ni ar 01291 635682 a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.