
Nid yw dod yn ofalwr maeth yn gofyn i chi roi’r gorau i’ch swydd. Daw gofalwyr maeth o ystod eang o gefndiroedd, a gallwch gael effaith ystyrlon ym mywyd plentyn lleol trwy ddod yn ofalwr maeth heddiw.
Yn ddiweddar, buom yn siarad â Claire, a rannodd ei phrofiadau hi a’i gŵr fel gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy, wrth barhau i weithio.
A yw’n bosib i chi weithio a maethu?
Ydy, rwyf bob amser wedi gweithio ochr yn ochr â bod yn ofalwr maeth. Rwy’n gweithio’n rhan-amser fel gweithiwr cymorth gyda Mencap, ac rwyf wrth fy modd.
Rwyf hefyd yn eistedd ar ychydig o Baneli Maethu fel Aelod Panel Annibynnol, ac rwy’n mwynhau hynny’n fawr, er ei fod yn llawer o waith.
Beth yw eich cyfrinach i aros yn drefnus?
Mae fy ngŵr yn gweithio’n llawn amser ond mae’n ymwneud yn fawr â gofalu am y plant sy’n byw gyda ni, ac rydym yn dîm rhagorol.
Rydym yn cynnal sesiynau rheolaidd o fynd drwy ein dyddiaduron a chynllunio o flaen llaw; felly rydym yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am beth bob wythnos, fel cludiant ysgol, cludiant amser teuluol, mynychu cyfarfodydd, helpu ein merch i gyrraedd y coleg, ac ati.
Mae gennym hefyd ein rolau ein hunain yn y tŷ ac rydym yn cynllunio ein hamser i ffitio’r rheini i mewn.
Rwy’n credu bod cyfathrebu da yn allweddol i drefnu’n dda.
Mae mam yn ein helpu drwy wneud cacennau blasus; mae hi’n aml yn galw heibio gyda chacennau bach neu pei, ac mae’r plant wrth eu boddau!
A oes gennych unrhyw gyngor i bobl sy’n ystyried cyfuno maethu ochr yn ochr â’u hymrwymiadau gwaith presennol?
Rwy’n cynghori sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth dda gan weithwyr proffesiynol, teulu a ffrindiau ac, yn bwysig, yn defnyddio’r gefnogaeth honno.
Siaradwch â’ch rheolwr ac esboniwch y rôl faethu, a’r hyn y byddai ei angen ganddynt i’w helpu i wneud iddo weithio; os ydyn nhw’n ei ddeall, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn gefnogol.
Peidiwch â bod ofn gofyn am help a chyngor. Defnyddiwch y gymuned faethu o’ch cwmpas. Rydym i gyd yno i gefnogi ein gilydd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
Am ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy? Cysylltwch â’r tîm heddiw: https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni.