Podlediad ac Argymhellion Llyfrau - Foster Wales Monmouthshire

blog

Podlediad ac Argymhellion Llyfrau

By Kerrie Grosvenor.

Rwyf wrth fy modd yn cerdded – yn ogystal ag awyr iach ac ymarfer, mae’n rhoi lle i mi feddwl. Weithiau, rwy’n cael weithiau fod gwrando ar bodlediad tra’n cerdded yn rhoi adloniant a gwybodaeth.

Podlediad ‘Y Mabwysiadu’ BBC Radio 4

Pan oeddwn yn edrych am bodlediadau perthnasol sylwais ar ‘The Adoption’ BBC Radio 4. Yn 17 pennod, a gymerodd 19 mis i’w gwneud, mae’n dilyn taith Bethany a Ben sydd angen rhieni newydd. Wedi’i gyflwyno gan Joe Manel, mae’n rhoi cipolwg prin ar broses mabwysiadu ac mae’n cynnwys cyfweliadau gyda Sharon Clark sy’n weithiwr cymdeithasol o Swydd Lincoln, rhieni geni, rhieni maeth a mabwysiadwyr. Cefais y podlediad yn graff ac yn deimladwy iawn. Gwerth gwrando arno.

I gael gwybod mwy: BBC Radio 4 – The Adoption

Podlediad ‘Mabwysiadu Maethu’

Rwyf hefyd yn gwrando yn rheolaidd ar bodlediad Adoption and Fostering. Caiff ei gyflwyno gan Scott Cassen-Renni ac Al Coates ac mae mewn gwirionedd yn bodlediad sgyrsio a thrafod. Mae ganddynt 125 podlediad ar hyn o bryd gyda phynciau yn amrywio o gyfweliadau gydag awduron, gofalwyr maeth, mabwysiadwyr, rhai a gafodd eu mabwysiadau, therapyddion i wybodaeth ar ddeddfwriaeth a pholisi. Yn aml yn ddigri ac yn gyffredinol ddifyr, mae hwn yn bodlediad defnyddiol a rhwydd gwrando arno.

I gael gwybod mwy: The Adoption and Fostering Podcast on Apple Podcasts

‘Fosterboy’ – Rhian Taylor

Fe wnaeth un o’r podlediadau gyfweld â’r weithwraig gymdeithasol a’r awdur Rhian Taylor oedd yn siarad am ei llyfr ‘fosterboy’. Wedi’i ysgrifennu yn bennaf ar gyfer rhai yn eu harddegau, mae’n dweud hanes dau o blant heb ddim byd yn gyffredin rhyngddynt. Aeth un, Phoenix, i ofal ar ôl i’w fam gymryd gor-ddos, mae’r llall Sasha yn ei harddegau ac yn blentyn rhieni maeth newydd Phoenix. Ysgrifennwyd y llyfr yn dweud y stori o safbwynt y ddau blentyn ac mae’n rhwydd ei ddarllen.

I gael gwybod mwy: Fosterboy : Taylor, Rhian: Amazon.co.uk: Books

Awdur ‘Cathy Glass’

Awdur arall sy’n ei mwynhau’n fawr yw Cathy Glass. Mae Cathy wedi bod yn ofalwraig maeth am dros 25 mlynedd ac wedi gofalu am 150 o blant; ysgrifennodd 35 llyfr ac rwyf wedi prynu a’u darllen i gyd. Maent yn straeon ac atgofion go iawn a gellir eu darllen mewn unrhyw drefn er fod yn rhaid i mi gyfaddef i mi eu darllen mewn trefn gronolegol. Er eu bod yn teimlo fel ffuglen ac yn aml yn anodd ac emosiynol eu darllen, cefais gymaint o wybodaeth o’u darllen ac mae Cathy yn wirioneddol yn fenyw sy’n ysbrydoli.

I gael gwybod mwy: Cathy Glass | Author

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Sir Fynwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Fynwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.