blog

5 Pethau i’w gwneud nawr bod y Plant wedi Gadael y Nyth.

Felly, mae eich plant wedi gadael cartref i ddechrau eu bywyd annibynnol.

Gall wneud i chi deimlo’n bryderus ac ychydig ar goll, ond mae’n werth gweld y newid mawr yma fel cyfle i ddechrau newydd.

Cymrwch ddiddordeb mewn hen hobi neu chwiliwch am rywbeth newydd rydych wastad wedi meddwl rhoi cynnig arno. Dydy cael mwy o amser i chi’ch hun a’r nyth yn wag ddim yn beth drwg; yn syml, mae’n golygu ei bod hi’n bryd i chi ledu’ch gorwelion hefyd.

Gall fod yn anodd i rieni addasu i ddeinamig teuluol newydd ar ôl i’w holl blant symud allan, ond mae gennym rai syniadau rydym yn gobeithio y bydd o gymorth i chi.

Ailgysylltu gyda hen ffrindiau

Nawr gan nad oes gennych aelwyd lawn i’w rheoli, mae’n werth estyn allan at rai ffrindiau y gallech fod wedi colli cysylltiad â nhw. Yng nghanol prysurdeb bywyd, mae’n anodd cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda rhai hen ffrindiau da. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld bod rhai ohonyn nhw mewn sefyllfa debyg a bidden nhw hefyd wrth eu boddau yn ailgysylltu â chi.

Ystyried maethu

Ydych chi erioed wedi meddwl am faethu? Mae llawer o bobl yn byw eu bywyd yn meddwl am faethu plentyn, ond does ganddyn nhw naill ai ddim digon o le nac amser. Efallai eich bod chi’n un ohonyn nhw.

Nawr bod eich plant wedi symud allan a gallai eich tŷ deimlo’n wag, gallai fod yn gyfle i chi ailystyried maethu.

Mae gan faethu fuddion di-ri, o lenwi’r gwacter a rhoi teimlad newydd o bwrpas i chi ar ôl i’ch plant adael cartref, i helpu adeiladu dyfodol gwell i blant lleol a gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.

Oeddech chi’n gwybod bod maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yn helpu plant fwy fyth drwy adael iddyn nhw aros yn eu cymuned?

O gael profiad gyda magu plant eich hun, gallech nawr helpu i wella bywydau plant sy’n derbyn gofal a theimlo’r ymdeimlad o werthfawrogiad am gyfrannu at y gymuned leol.  Yn Maethu Cymru Sir Fynwy, ein pwrpas yw gweithio fel tîm er mwyn adeiladu dyfodol gwell i blant lleol, nid er mwyn elw.

Os oes gennych ddiddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwch ymuno â ni, ’ymwelwch â’n gwefan heddiw!

Ymuno â rhai dosbarthiadau

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd. Efallai eich bod chi wastad eisiau dysgu sut i chwarae offeryn, neu ddysgu iaith newydd? Nawr mae gennych chi gyfle i fynd yn ôl i’r ysgol neu ddilyn ambell gwrs byr mewn rhywbeth rydych chi wastad wedi bod eisiau ei astudio. Does dim rhaid iddo fod yn ddrud nac yn cymryd llawer o amser. Mae’r rhyngrwyd wedi agor llawer o bosibiliadau, o gyrsiau byr iawn rhad ac am ddim i wersi ffurfiol y gallwch chi eu gwneud yn hyblyg yn eich amser hamdden.

Gallech chi hefyd gymryd gwersi yn y celfyddydau, neu fynd am rywbeth mwy corfforol fel nofio, dawnsio neu saethyddiaeth.

Ymuno â chlwb neu sefydliad

Nawr bod gennych fwy o amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar wahân i redeg aelwyd brysur, gallwch ddod o hyd i glwb neu sefydliad sy’n darparu ar gyfer un o’ch diddordebau pennaf. 

Os mai garddio yw eich diddordeb, ond allech chi byth ddod o hyd i amser, nawr gallwch ymuno â chlwb garddio.

Gall clwb rhedeg, cerdded neu golff lleol roi cyfle i chi gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd o’r un anian yn eich ardal.

Gall pobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ymuno â sefydliadau gwleidyddol lleol i geisio gwella eu cymuned leol a dod o hyd i ymdeimlad o bwrpas ynddo.

Gwirfoddoli

Mae astudiaethau’n dangos bod pobl sy’n gwirfoddoli yn teimlo’n hapusach, yn hunan-hyderus ac yn llawn pwrpas. Gall gwirfoddoli fod, ac yn aml, yn fwy boddhaol na chyflogaeth gyflogedig. Â’ch cartref yn wag, mae’n bosib y bydd gennych chi nawr fwy o amser i gymryd rhan mewn gwirfoddoli ar gyfer plant, anifeiliaid neu sefydliadau lleol a chynnig gwybodaeth a help gwerthfawr. Mae hefyd yn ffordd wych arall o gyfarfod a chysylltu â phobl eraill.

Ar ôl i’ch plant symud allan, mae gennych amser i ailgysylltu â phwy ydych chi fel person. Gobeithiwn y bydd yr erthygl hon yn eich helpu gyda’r newid hwn.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch