
Yn ein blog diweddaraf, edrychwn ar daith gofalwr maeth gwryw sengl yn byw yn Sir Fynwy. Mae’n stori sy’n cynhesu’r galon ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth, mae’n rhannu ei brofiadau, heriau a gwobrau maethu. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio ei stori a’r effaith a gafodd ar fywydau’r plant mae’n gofalu amdanynt.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn ofalwr maeth?
Ar ôl bod yn ofalwr i fy ŵyr, cefais fy ysbrydoli i ddod yn ofalwr maeth a chredais y byddai’n werth chweil i bawb oedd yn ymwneud.
Fel gofalwr maeth sengl, beth yw’r rhan fwyaf gwerth chweil o faethu?
Mae’n flin gen i, fedra’i ddim dweud ei bod yn ddim gwahanol i faethu fel cwpl; rydych yn dal i gael y gwych a’r gwachul, yn union fel pob teulu, ond mae’r cyfan yn werth chweil yn union fel i gwpl neu deulu mwy.
Gall maethu fod yn anodd – sut ydych chi’n ymdopi gyda heriau cydbwyso hynny gyda’ch bywyd personol?
Gall maethu fod yn anodd, ond nid yw’n wahanol i ofynion magu eich teulu eich hun, sef sut yr ydw i yn bersonol yn ystyried swydd gofalwr maeth. Rydych yn cael amserau gwych ac amserau heb fod cystal, ond felly mae bywyd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unigolion sengl eraill sy’n ystyried maethu ond a fedrai fod â phryderon am ei wneud ar ben eu hunain?
Byddwn yn dweud yn syml EWCH AMDANI.
Beth yw rôl cyfeillion, teulu a’r gymuned ehangach yn eich profiad maethu?
Mae fy nheulu bob amser ar gael i gynorthwyo os oes angen, yn union fel yr ydw innau pan maen nhw angen help; dyna beth mae teuluoedd i fod i’w wneud.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried maethu ond a fedrai fod yn ansicr am ei wneud fel gofalwr sengl?
Gofalwyr maeth sengl, ewch amdani. Gallwch wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn; gobeithio hefyd y bydd yn werth chweil i chi. P’un ai yw eich plentyn yn aros gyda chi am byth, am gyfnod byr, yn mynd gartref neu’n cael ei fabwysiadu, rydych chi wedi helpu gyda hynny ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn deimlad hyfryd i’w gael.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych yn ystyried maethu ac yr hoffech wybod mwy. Cysylltwch â ni i gae sgwrs a darganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol.