stori

Sam a Mark

Mae Sam a Mark yn gwpl priod a ddechreuodd faethu pan oedd eu mab eu hunain yn chwech oed.

y teulu maeth

Dechreuodd Sam a Mark faethu bum mlynedd yn ôl pan oedd Sam yn gweithio mewn ysgol.

“Cwrddais â bachgen ifanc yn un o’r dosbarthiadau, a oedd yn mynd drwy gyfnod anodd ac yr oedd angen fy nghefnogaeth arno. Wrth gwrs, dim ond hyn a hyn o gefnogaeth y gallwch ei rhoi yn yr ysgol, ond roeddwn yn gwybod pe bawn i’n ofalwr maeth, gallwn roi’r cymorth hwnnw yn fy nghartref, gyda fy nheulu.”

Ar ôl cael plentyn eu hunain yn barod, roedd Sam a Mark yn gweld maethu fel cyfle i roi cymorth i blant yr oedd wir ei angen arnyn nhw.

“Rydyn ni’n maethu dwy chwaer ar hyn o bryd. Maen nhw’n 15 ac yn 13 oed. Gofynnodd tîm Maethu Cymru Sir Fynwy i ni a oedd modd i ni ofalu am y ddwy. Roedden ni’n meddwl sut y bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw’n cael eu gwahanu – doedden ni ddim yn gallu goddef y syniad o’u gwahanu.”

“roedden nhw angen rhywun i gymryd diddordeb ynddyn nhw, rhywun i wrando.”

Nid oedd gan y plant mae Sam a Mark yn gofalu amdanyn nhw amgylchedd cartref sefydlog, ac roedd angen hwnnw arnyn nhw.

“Roedden nhw’n arfer aros mas drwy’r dydd, beth bynnag y bo’r tywydd. Fe gymerodd amser iddyn nhw deimlo’n ddiogel gyda ni.”

Ond roedd y cwpl yn gwybod bod angen mwy na chartref ar y plant hyn – roedd angen dangos sut beth yw cariad, gofal ac ymrwymiad hefyd.

“Doedd rhoi cartref iddyn nhw ddim yn mynd i wneud popeth yn well. Roedden nhw angen rhywun i gymryd diddordeb ynddyn nhw, rhywun i wrando. Allwch chi ddim eu magu yn yr un ffordd â’ch plant eich hun oherwydd nad yw eich plant wedi bod drwy’r trawma maen nhw wedi bod drwyddo.”

“maen nhw’n dîm. rydyn ni’n dîm hefyd”

Roedd cadw’r chwiorydd gyda’i gilydd yn bwysig iawn i Sam a Mark, ac roedd yn bwysig i’n tîm lleol yn Sir Fynwy hefyd. Wrth edrych yn ôl, mae pawb yn cytuno na allai fod wedi digwydd mewn unrhyw ffordd arall.

“Rydyn ni wedi mynd trwy adegau anodd, ond mae’r dyddiau da yn drech na’r rhai drwg. Nawr maen nhw’n ymwneud â chwaraeon a cherddoriaeth, ac mae eu hyder yn cynyddu bob dydd. Wrth edrych yn ôl, rwyf mor falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Dwi ddim yn siŵr y bydden nhw wedi cyflawni neu symud ymlaen hanner cymaint pe baen nhw wedi cael eu gwahanu. Maen nhw’n dîm. Rydyn ni’n dîm hefyd.”

am ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw stori Sam a Mark wedi eich ysbrydoli i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn ofalwr maeth, byddem wrth ein boddau o’ch croesawu i’n tîm. Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed gennych.

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.

Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddyn nhw, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch