blog

Ofnau yn ôl i’r ysgol a sut i’w goresgyn

Mae trefn yn rhywbeth mae llawer ohono yn gwneud ein gorau i gynnig i’n plant felly pan ddigwyddodd y cyfnod clo fis Mawrth diwethaf a chau ysgolion, daeth normalrwydd o ran trefn i ben ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. Er fod llawer o bobl yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r drefn arferol a phlant yn dychwelyd i’r ysgol, mae llawer o blant sy’n bryderus ac yn poeni sut beth fydd yr ysgol nawr a pha mor wahanol fydd popeth.

Felly rydym wedi paratoi rhai syniadau ac awgrymiadau gan Ofalwyr Maeth Sir Fynwy i helpu gostwng rhai o’r ofnau y gall plant fod â nhw am ddychwelyd i’r ysgol.

Aros yn gadarnhaol

“Cynhwyswch y plentyn wrth brynu gwisg ysgol ac eitemau i ddychwelyd i’r ysgol, eu cael i drio eu gwisg ysgol wythnos cyn i’r ysgol ddechrau a chanmol pa mor smart maent yn edrych, gwneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen ymlaen llaw yn hytrach na’i adael tan y diwrnod cyn iddynt ddychwelyd i’r ysgol”. Rydym yn cynghori rhieni a gofalwyr i siarad yn gadarnhaol am ddychwelyd i’r ysgol, canolbwyntio ar y pethau da, fel gweld eu ffrindiau, eu hathrawon a gwneud y gweithgareddau hwyliog y maent yn eu mwynhau fwyaf.

Cysylltu â’r ysgol.

“Edrychwch ar wefan neu gylchlythyr yr ysgol, mae llawer o wybodaeth yma am ddyddiadau dychwelyd a gofynion gwisg ysgol ac ati, felly edrychwch ar hyn ymlaen llaw”. Lle’n bosibl, mae’n syniad da i rieni a gofalwyr gysylltu â’r ysgol a holi am y trefniadau, tebyg i lle fydd fy mhlentyn yn cael cinio neu beth fydd yn digwydd amser chwarae, fel y gallant esbonio a rhoi sicrwydd i blant am y manylion.

Siarad gyda’r plentyn

“Siarad gyda’r plentyn a holi am unrhyw bryderon neu unrhyw beth y gallant fod yn poeni amdano”. Dylai rhieni a gofalwyr gael eu hannog i siarad gyda’u plant am sut mae rhai newidiadau yn gwneud iddynt deimlo ac ymchwilio sut y gallai eu plentyn drin sefyllfaoedd anodd, gan eu helpu i baratoi ar gyfer unrhyw ganlyniad.

Siarad gyda’r athrawon

“Mae rhai ysgolion yn rhoi dolenni i fideos i gwrdd ag athrawon. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os yw ar gael gan y gall dawelu unrhyw bryderon am fod ag athro neu athrawes newydd a rhoi cyfle i weld wyneb cyfarwydd”. Yn union fel unrhyw adeg arall yn yr ysgol, mae’n bwysig esbonio i blentyn ei bod yn iawn siarad gyda’r athrawon os ydynt yn bryderus, os oes ganddynt broblem neu’n ofnus. Bydd athrawon eisiau gwneud yr amgylchedd dysgu yn ddiogel yn ogystal â chynhyrchiol ar gyfer plant. Os yw rhiant neu ofalwr yn teimlo fod eu plentyn yn cael trafferth mewn unrhyw ffordd, dylent ganfod amser i rannu hyn gydag athrawon eu plentyn. Bydd yr athrawon eisiau helpu, gan mai eu blaenoriaeth fydd gwneud yn siŵr fod gan eu plant fynediad i’r hyn maent ei angen a sicrhau eu bod yn iawn yn academaidd ac yn emosiynol.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch