blog

Sut i drin y Nadolig fel Gofalwr Maeth

Gwyddom y gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i blant maeth, gyda llawer o draddodiadau a gweithgareddau rhyfedd a allai effeithio ar eu trefn arferol neu sbarduno rhai mathau o deimladau ac ymddygiad. Felly nid yw’n anarferol i ofalwyr maeth newydd neu ddarpar ofalwyr maeth fod â chwestiynau ar sut i drin y Nadolig.

Dyma Hazel, gofalwr maeth o Sir Fynwy, sy’n gobeithio lleddfu rhai o’r pryderon gyda’i chyngor da ei hun ar sut i drin y Nadolig fel gofalwr maeth.

“Nid oes dim byd digyfnewid am sut i drin y Nadolig gan fod pob plentyn a chartref yn wahanol ond dyma rai syniadau sy’n gweithio i ni.

Addurniadau

Rydyn ni’n dechrau gwneud addurniadau gyda’n gilydd ym mis Rhagfyr. Ni roddir unrhyw bwysau ar y plentyn i helpu ond mae’n sicr y bydd yn dod i’r golwg ac eisiau helpu unwaith y bydd yn gweld ei fod yn hwyl a’u bod yn cael treulio amser un-i-un gyda chi.

Pobi Nadolig 

Pan fyddaf yn prynu bwyd, rwy’n prynu pecynnau coginio Nadolig, bisgedi, teisennau ac yn y blaen ac yn gwneud y rhain gyda’n gilydd. Gall hyn hefyd fod yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau bywyd a gwella eu darllen heb iddynt sylweddoli wrth iddynt helpu i ddarllen y cyfarwyddiadau.

Mynd am dro

Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd am dro gyda’r nos i edrych ar y goleuadau Nadolig. Gall hyn fod yn gyffrous iawn ond roeddem yn ofnus i ddechrau gan ei bod yn dywyll. Os yw hyn yn wir am eich plentyn, cymerwch hi’n araf a gwneud stryd neu ddwy i ddechrau a chynyddu eu hyder am fynd allan yn y tywyllwch.

Gwneud eich arferion eich hunain

Ar Noswyl Nadolig rydym yn gadael yr hosan ar gyfer Siôn Corn yn yr ystafell eistedd gan y gall meddwl fod rhywun yn dod i’ch ystafell wely godi ofn ar y plentyn. Rydym yn gadael y plât arferol o bethau da i Siôn Corn hefyd. Rwy’n gadael i’r plentyn gael yr hyn sydd ar ôl ac yn aml rywbeth iddynt eu hunain. Gallant fod yn gadael plât rhyfedd a gwych yn llawn o fwyd, a yw’n bwysig? Na, dim o gwbl.

Ar Ddydd Nadolig rydym yn ffodus iawn gan mai dim ond fi a fy un bach sydd yna. Dewisais beidio ymweld â pherthnasau ar Ddydd Nadolig oherwydd fod fy un bach yn teimlo’n ddiogel a saff gartref gyda fi, gallwn ymweld â fy nheulu ar ddyddiau eraill ac maent yn deall pethau’n iawn.

Pwyll piau hi

Rwy’n ceisio mynd gyda’r llif gymaint ag sy’n bosibl. Rydym yn agor un anrheg ar y tro er mwyn peidio llethu. Y llynedd bu’n chwarae gyda phob tegan am oesoedd wedyn ac fe gymerodd ddau ddiwrnod i agor popeth. Dim problem o gwbl unwaith eto, does dim byd yn dweud fod yn rhaid i chi fod wedi agor popeth erbyn amser neilltuol.

Mynd gyda’r llif

Pan ddaw i ginio Nadolig, nid wyf yn rhoi’r bwyd ar blât ond yn gadael i’r plentyn ddewis beth maent eisiau. Yn aml rwy’n rhoi dewis o bwdin fel bod ganddynt ryw ddewis yn beth maent yn ei gael i ginio.

Lle bynnag sy’n bosibl, ewch gyda’r llif, peidio rhuthro pethau a mwynhau.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch