Beth ddylech chi ei wybod am faethu person ifanc yn ei arddegau?

blog

Beth ddylech chi ei wybod am faethu person ifanc yn ei arddegau?

Beth ddylech chi ei wybod am faethu person ifanc yn ei arddegau?

Gall maethu pobl ifanc yn eu harddegau fod yn brofiad heriol ond gwerth chweil i’r gofalwyr maeth a hefyd y person ifanc. Mae’n amser hollbwysig ym mywyd person ifanc pan maent yn y broses o ddatblygu eu hunaniaeth a phontio i fywyd fel oedolion. Felly mae’n hanfodol deall anghenion a heriau unigryw sy’n wynebu pobl ifanc mewn gofal maeth.

Yn yr erthygl hon byddwn yn ceisio ateb “Beth ddylech chi ei wybod am faethu person ifanc yn ei arddegau?” a hefyd roi ychydig o oleuni ar bynciau’n gysylltiedig â maethu pobl ifanc:

  • eich rôl fel gofalwr maeth i berson ifanc
  • manteision maethu pobl ifanc
  • 5 myth boblogaidd am faethu pobl ifanc
  • rheolau allweddol am faethu person ifanc
  • mathau o faethu yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Eich rôl fel gofalwr maeth person ifanc

Fel gofalwr maeth i berson ifanc, eich ròl yw darparu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall y person ifanc dyfu a ffynnu. Mae hyn yn golygu gofalu am eu hanghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i ddod yn oedolion annibynnol.

Gall pobl ifanc mewn gofal fod wedi profi trawma a diffyg sefydlogrwydd yn eu bywydau, felly mae’n bwysig darparu amgylchedd cartref cyson a chariadus. Mae hyn yn golygu creu arferion a ffiniau a bod yno iddynt.

Mae maethu person ifanc yn wahanol ac mewn llawer o ffyrdd yn rhwyddach na maethu plant ifanc. Mae angen i chi ddarparu ar gyfer eu hanghenion sylfaenol, fel darparu bwyd, dillad a chysgod a sicrhau fod ganddynt fynediad i ofal iechyd ac addysg, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi sefydlu’r hyn maent yn ei hoffi a gallant fod yn gyfrifol am eu hunan-ofal eu hunain, sy’n golygu eich bod yn gweithredu yn fwy fel mentor neu dywysydd iddynt.

Gall eich help fel gofalwr maeth hefyd gefnogi pobl ifanc i ddod yn annibynnol. Gallant fod angen cyngor i drin  pethau fel cael mynediad i wasanaethau iechyd neu sgiliau bywyd ymarferol tebyg i goginio, trefnu arian neu sut i gadw trefn ar filiau.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y bobl ifanc hyn yn cael y cyfle gorau posibl i gyflawni eu potensial. Mae gosod y sylfaen yma i gael bywyd da a llwyddiannus yn bwysig i ni.”

Lee a Lucy, gofalwyr maeth lleol

Oherwydd eu profiadau yn y gorffennol gall rhai pobl ifanc fod â diffyg hunanhyder a heb fod yn credu yn eu galluoedd a’u sgiliau. Eich rôl yw eu grymuso a’u helpu i feithrin eu hunan-hyder. Gallwch eu hannog i ennill cymwysterau a’u helpu gydag ochr ymarferol cofrestru yn y coleg. Drwy wneud hynny, rydych yn helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu nodau a chyrraedd eu potensial llawn.


Manteision maethu pobl ifanc

Gall byw ar aelwyd maethu addysgu sgiliau bywyd a chymdeithasol pwysig iawn i bobl ifanc, tebyget i waith tîm, gwrando ac amynedd. Mae pobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi maeth hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu deallusrwydd emosiynol a’u empathi gyda llawer yn mynd ymlaen i weithio mewn gofal cymdeithasol a phroffesiynau eraill cysylltiedig, a byw bywydau hapus a llwyddiannus.

Os ydych yn byw ar ben eich hun, neu fod eich plentyn eisoes wedi gadael cartref, gallech fod yn teimlo’n unig weithiau. Gall maethu person ifanc wneud eich bywyd yn hapusach a llawen. Gallant eich agor i brofiadau newydd a diddorol a rhoi diben newydd mewn bywyd i chi.

“Rydyn ni’n edrych ar ffilmiau gyda’n gilydd, yn mynd i siopa, mwynhau cerddoriaeth a chyngherddau a mynd am fwyd, sy’n wahanol iawn i faethu plant iau. Mae eu gweld yn datblygu i fod yn oedolion ifanc yn werth chweil iawn.”

– Janine, gofalwr maeth awdurdod lleol

Drwy faethu person ifanc rydych yn datblygu perthynas agos ac ystyrlon sydd o fudd i chi a hefyd y person ifanc. Gall eich ymddiriedaeth ynddynt a’ch parch atynt arwain at gefnogaeth i’ch gilydd yn y dyfodol.

“Fe wnes i faethu un dyn ifanc a briododd y llynedd. Roedd e gyda fi am dair blynedd. Mae’n siarad gyda fi bob wythnos ac yn fy nhrin fel ffigur tadol.”

Mike, gofalwr maeth awdurdod lleol

Weithiau gall deimlo fod maethu person ifanc yn her ac yn dasg anodd. Er y gall hyn fod yn rhannol wir, gallwch hefyd fanteisio drwy ddysgu llawer o sgiliau newydd fel person. O amynedd a thrugaredd i gyfathrebu’n effeithiol a datrys problem – gallwch ddatblygu llawer o sgiliau drwy faethu person ifanc, a all fod yn werthfawr mewn meysydd eraill o’ch bywyd.

Pan fyddwch yn dod yn ofalwr maeth i Maethu Cymru Sir Fynwy byddwch hefyd yn ymuno â chymuned o bobl sy’n angerddol am gefnogi pobl ifanc. Gall hyn roi ymdeimlad o berthyn a chysylltiad gydag eraill sy’n rhannu gwerthoedd a nodau tebyg.


5 myth am faethu pobl ifanc


Mae pobl ifanc mewn gofal yn achosi trafferth

Celwydd. Nid yw pobl ifanc yn achosi trafferth, ac mae’n farn annheg ac anghywir iawn. Maent wedi bod drwy lawer o’r un sefyllfaoedd heriol â phlant iau mewn gofal, tebyg i esgeulustod, cam-driniaeth neu amgylchiadau teulu anodd, a gall hynny fod arwain at broblemau ymddygiad. Ar ben hynny, maent yn wynebu her glasoed. Mae llawer o bobl ifanc mewn gofal yn ymddwyn yn dda ac yn gweithio’n galed i oresgyn eu heriau.

Mae maethu yn gyfle gwych i feithrin y bobl ifanc hyn, rhoi’r gefnogaeth maent ei angen a’u gweld yn dyfu yn oedolion ifanc hapus.

“Os ydych yn dweud wrth rywun eich bod mewn gofal neu wedi bod mewn gofal, byddant yn ymateb drwy ddweud, ‘rydych chi yn achosi trafferth, mae pob person ifanc mewn gofal yn achosi trafferth.’. Peidiwch â’n barnu, dewch i’n hadnabod gyntaf.”

Lisa, person ifanc gyda phrofiad o ofal

Gall pobl ifanc mewn gofal maeth gael effaith negyddol ar fy mhlant fy hun

Mae hyn yn fyth poblogaidd a niweidiol iawn am bobl ifanc mewn gofal. Er fod pob teulu yn wahanol, mae bod yn ofalwr maeth ar gyfer person ifanc gael effaith cadarnhaol ar eich plant gwaed mewn llawer o ffyrdd.

Gallwch addysgu ymddygiad a gwerthoedd cadarnhaol i’ch plant a chyflwyno model rôlk gadarnhaol. Gallant ddysgu empathi, trugaredd a chyfrifoldeb drwy weld sut ydych yn rhyngweithio gyda’r person ifanc maeth. Gall maethu person ifanc o wahanol gefndir olygu fod eich plentyn yn dod i gysylltiad gyda gwahanol ddiwylliant a phrofiad. Mae’n ehangu eu safbwynt a’u haddysgu i fod â meddwl agored a chwilfrydedd.

“Mae gan ein plant gwaed y gallu yma i gysylltu gyda phlant eraill a dod â nhw allan o’u cragen a dangos mwy o’u personoliaeth.”

Lee, gofalwr maeth awdurdod lleol

Fel rhan o’r broses asesu, byddwn yn ymweld â’ch cartref i gael trafodaeth gyda’ch plant a chanfod eu dymuniadau a’u teimladau am faethu. Bydd ein tîm yn gweithio’n galed i sicrhau paru addas rhwng person ifanc a’ch teulu. Yn ystod y daith maethu, byddech yn cael goruchwyliaeth reolaidd gyda’ch gweithiwr cymdeithasol ac ymgynghorid yn rheolaidd gyda’ch plentyn/plant i sicrhau fod eu profiad o faethu yn un hapus a chadarnhaol.


Rhaid i ofalwyr maeth fod yn hen a phrofiadol

Nid ydych angen unrhyw nodweddion neu gymwysterau penodol i faethu tu hwnt i’r hyn a ofynnwn gan unrhyw ofalwr maeth arall. Nid oes chwaith unrhyw derfyn uchaf ar ddod yn ofalwr maeth i berson ifanc. Gallech fod yn eich 20au neu 70au, cyn gynted â’ch bod yn iach ac y medrwch gyflawni’r ymrwymiadau a ddaw gyda maethu.

Gyda phrofiad blaenorol wrth fagu eich plant geni neu faethu fod yn ddefnyddiol er nid yn hanfodol bob amser. Efallai eich bod yn gweithio neu wedi gweithio fel athro neu mewn gofal cymdeithasol lle cawsoch brofiad yn delio gydag ymddygiad heriol. Efallai eich bod eisoes wedi sefydlu ffyrdd o ddelio gyda sefyllfaoedd annisgwyl neu ddatrys problemau mewn ffordd y gwyddoch sy’n effeithol. Os teimlwch y gallech gynnig cyngor, rhannu eich doethineb a darparu amgylchedd diogel, sefydlog a chariadus, cysylltwch â ni heddiw!


Mae personoliaeth pobl ifanc wedi ffurfio’n llawn, fedrwch chi ddim yn eu helpu

Mae ymchwil ddiweddar hyd yn oed yn awgrymu bod ymennydd person ifanc yn dal i ddatblygu i ganol neu ddiwedd eu hugeiniau. Mae’n tanlinellu’r ffaith fod ymenyddion pobl ifanc wedi eu paratoi i ddysgu sut i addasu eu hymddygiad. Mae’r glasoed yn gam hollbwysig o ddatblygiad, and erbyn yr adeg pan fydd person ifanc yn cyrraedd eu harddegau, mae eu personoliaeth fel arfer wedi ffurfio i raddau helaeth. fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod fod y rhan fwyaf o bobl ifanc mewn gofal wedi mynd drwy brofiadau a allai gael effaith ar eu datblygiad. Mewn gofal maeth, cânt eu diogelu a’u bod yn teimlo’n ddiogel i alluogi eu hymenyddiau i ymarfer eu capasiti newydd i reoli eu gweithgareddau.

Gall eich cymorth ac arweiniad eu helpu i:

  • adnabod eu talentau a’u galluoedd;
  • newid eu credoau am eu hunain a’r byd o’u hamgylch;
  • gweld eu bywyd mewn ffordd fwy cadarnhaol;
  • teimlo’n obeithio am eu dyfodol
  • ail-asesu eu gwerthoedd

Rheolau i faethu person ifanc


Mae cyfathrebu yn allweddol

Fel gofalwr maeth, mae’n bwysig sefydlu cyfathrebu agored ac onest gyda’r person ifanc yn eich gofal. Mae hyn yn cynnwys gwrando’n astud ar eu sylwadau a’u teimladau, gan barchu eu barn, a rhoi arweiniad a chefnogaeth iddynt.

Mae pobl ifanc eisiau gael eu clywed. Gadewch iddynt godi llais a chael eich barn eu hunain. Gadewch iddynt wybod fod gan pawb hawl i’w barn, a’ch bod yn parchu hynny yn eich cartref, cyhyd â bod y cyfathrebu yn digwydd mewn modd cyfeillgar.

“Yn gynnar, fe wnes annog cyfathrebu agored ar bob pwnc sy’n adeiladu’r sylfaen ar gyfer blynyddoedd yr arddegau. Gallwn siarad yn agor, trafod materion a chefnogi ein gilydd drwy gyfnod anodd. Rwy’n bod yn ofalus i edrych ar y cam, nid oed pan maen mewn sgwrs.”

Janine, gofalwr maeth awdurdod lleol

Dangoswch ddiddordeb nid yn unig os yw person ifanc yn eich gofal wedi cyflawni eu cyfrifoldebau ond hefyd yng ngweddill eu bywyd. Ydych chi’n gwybod gyda phwy maent yn hoffi treulio amser? Beth yw eu hoff bynciau yn yr ysgol? Beth maent yn bwriadu ei wneud yn ystod y gwyliau? Pwy fydden nhw’n hoffi fod yn y dyfod? Gall treulio amser gyda’ch gilydd a sgwrsio ddod â chi yn nes at eich gilydd. Bydd hefyd yn helpu i ganfod os oes unrhyw beth o’i le, os oes problemau yn yr ysgol neu gyda ffrindiau.

Ymddiriedaeth a pharch

Mae meithrin ymddiriedaeth a pharch gyda pherson ifanc yn hanfodol i greu perthynas gadarnhaol. Gellir cyflawni hyn drwy fod yn gosod, gosod ffiniau a darparu amgylchedd sefydlog.

Drwy barchu eu preifatrwydd byddwch yn ennill eu hymddiriedaeth. Mae preifatrwydd yn bwysig iawn i berson ifanc o’r oedran yma. Mae’r glasoed yn gyfnod o dwf a newid enfawr yn y corff, gan wneud pobl ifanc yn fwy blin. Yn ychwanegol, maent yn dechrau dangos eu cymeriad unigol e.e. drwy ddillad, arddull gwallt, cymeriad unigol e.e. drwy ddillad, arddull gwallt, tatŵ, addurn ystafell ac yn y blaen. Mae hyn i gyd i danlinellu eu bod yn tyfu eu hunain ac felly fod ganddynt eu barn, anghenion a phroblemau eu hunain.

Os yw ar gau, cnociwch ddrws eu hystafell wely cyn mynd i fewn. Peidiwch ag edrych i’w gofodau personol, neu ddarllen eu negeseuon e-bost a llythyrau. Chwilio eu hystafell neu eu bagiau yw’r cam cyntaf i golli’r ymddiriedaeth y buoch yn gweithio’n galed i’w ennill. Os oes gennych bryderon dros ddiogelwch y plentyn cyfathrebwch gyda nhw a cheisio cysylltu yn gyntaf.

Hefyd, ceisiwch ddiogelu eu preifatrwydd ac osgoi cyfeirio atynt fel ‘person ifanc mewn gofal’ neu ‘blant sy’n derbyn gofal’ o flaen eraill neu mewn mannau cyhoeddus.. Mae pobl ifanc mewn gofal eisiau teimlo’r un fath ag unrhyw blant eraill, ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu trin a chyfeirio atynt felly.

Eu deall a bod yn amyneddgar

Gall pobl ifanc maeth fod wedi profi trawma, esgeulustod neu gam-driniaeth yn eu gorffennol, gan arwain at broblemau ymddygiad. Mae’n bwysig bod yn amyneddgar a dangos dealltwriaeth tra’u bod yn gweithio drwy eu eomsiynau ac ymddygiad.

Eich tasg yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth iddynt i iachau a symud ymlaen.

Ar ben hynny, gallant fod yn profi amrywiaeth o newidiadau hormonaidd y maent yn mynd drwyddynt. Rydym i gyd wedi bod yno, felly cyn i chi ymateb i ymddygiad gwael, atgoffwch eich hunan i beidio cymryd pethau’n bersonol a chymryd munud i bwyllo.

Eu canmol

Mae gostyngiad mewn hunanhyder a delwedd corff wael yn fwrn ar lawer o blant cyn yr arddegau. Gallwch eu helpu drwy ganmol mwy iddynt ac osgoi beirniadaeth. Hyd yn oed os yw peth o’u hymddygiad yn rhoi amser caled i chi, ceisiwch ganfod rhywbeth i ddweud amdanynt neu rywbeth y gwnaethant ei roi. Mae’n aml yn anodd i bobl ifanc fynegi eu teimladau, felly efallai na fyddant yn ymateb i’ch canmoliaeth, yn fwy na dim ond nodian neu ebychu ond byddant yn ei glywed a’i werthfawrogi. Yn y diwedd, mae agwedd gadarnhaol ac anogaeth yw popeth yr ydym ei angen ac angen i deimlo’n wag amdanynt ein hunain.

Llywio a mentora

Gadewch iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain – o ble i fynd am y penwythnos i ba ysgol uwchradd neu brifysgol i’w dewis. Mae penderfyniadau annibynnol yn llunio eu hunanhyder a’u haddysgu i fod yn gyfrifol.. Felly, defnyddiwch ymadroddion yn aml tebyg i ‘penderfynwch dros dy hun; neu ‘beth wyt ti’n feddwl a y peth/’ Gadewch iddynt deimlo eu bod yn bwysig ac y gallant wneud rhai pethau ar ben eu hunain.

Dylai eich arweiniad eu llywio yn y cyfeiriad cywir. Gall pobl ifanc ymddangos fel oedolion (yn aml yn gweithredu fel nad ydynt angen help bellach) ond erbyn yr oedran hwn, maent wirioneddol angen mentora a rhywun a all eu helpu i wneud y dewisiadau cywir mewn bywyd. Ar adegau gall eich arweiniad neu gyngor gael ei anwybyddu, mae’n bwysig gadael iddynt ddysgu o’u camgymeriadau os yw’n rhywbeth bach a chamu mewn os ydynt ar fin gwneud penderfyniadau neu ddewis  a all effeithio ar eu hiechyd neu lesiant.

Mathau o faethu 

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallwch ddewis y math o faethu sy’n gweddu i chi. Gyda Maethu Cymru, gallwch weithio a maethu (darllenwch ein blog amdano). 

Os ydych yn gweithio gallwch ddal helpu’r person ifanc drwy faethu ar benwythnosau (maethu seibiant) neu drwy ddarparu lleoliadau argyfwng (fel arfer aros dros nos).

Mae rhai o’n gofalwyr yn berchen eu busnesau eu hunain neu’n gweithio yn rhan-amser a maethu’n llawn-amser; mae rhai’n cynnig maethu hirdymor, fel Angela, gofalwr maeth awdurdod lleol:

“Fe wnaethom ni leoliad hirdymor. Nid oedd gennym ni ddeis pendant, ond dywedwyd wrthym ei bod angen lleoliad hirdymor ac fe wnaethom gytuno. Mae bellach yn 20 oed ac yn ddiweddar symudodd mas i fyw gyda’i chariad. Doeddwn i ddim eisiau iddi i fynd! (chwerthin) Rydw i’n meddwl ei bod wedi ffynnu gyda ni.”

Mae maethu gyda’ch awdurdod lleol yn hyblyg. Rydym angen gofalwyr maeth a all ddarparu ar gyfer anghenion gwahanol plant ac ymdrechwn eich paru chi a’r plant y gofalwn amdanynt i sicrhau’r canlyniadau gorau ar eu cyfer.

Pa bynnag fath o faethu a ddewiswch, dydych chi byth ar ben eich hun. Rydym yn ymroddedig i’ch cefnogi ar eich taith faethu a rhoi’r holl help ac adnoddau sydd gennym ar gael.

Allech chi faethu person ifanc? 

Os ydych yn dal yn amheus, pam na chysylltwch gyda tîm maethu eich awdurdod lleol hefyd? Byddant yn eich helpu i weithio mas os mai dyma’r amser cywir i chi faethu.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Byw yn Sir Fynwy? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned, sy’n gofalu amdanoch.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch